Protestio ar y to er mwyn tynnu sylw at argyfwng tai

deddf_eiddo.gif Am saith o’r gloch bore heddiw (Dydd Iau Gorffennaf 8fed) dringodd nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar do adeilad Llywodraeth Cymru yn Llandrillo yn Rhos er mwyn tynnu sylw at y broblem tai yng Nghymru.

Hon fydd yr ail mewn cyfres o brotestiadau y bydd Cymdeithas yr Iaith yn ei drefnu dros yr haf ar bwnc tai yng Nghymru. Cynhaliwyd y gyntaf yn adeiladau’r llywodraeth yng Nghaernarfon rai wythnosau yn ôl.Dywedodd Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac un o’r protestwyr:“Yr ydym am weld Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymo y bydd yn ei chyllideb nesaf ym Mis Tachwedd yn sicrhau cynnydd sylweddol yn yr arian sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu.“Dylai’r Llywodraeth hefyd, yn ei chyllideb nesaf, ddarparu cyllid ar gyfer cronfa newydd fydd yn rhoi hawl i bobl rentu tai ac eiddo yn eu cymunedau lleol. Dylai’r gronfa hon alluogi cymdeithasau tai i brynu unedau sydd ar werth yng nghanol ein trefi a’n pentrefi a’u gosod i deuluoedd lleol. Yn ôl y drefn yma byddai’r teulu yn gwneud cais i rentu tŷ sydd ar y farchnad ac yna byddai elfen o gymhorthdal drwy’r gronfa newydd i sicrhau rhent teg.“Yr ydym fel Cymdeithas wedi cyfarfod a nifer o Aelodau’r Cynulliad i drafod y materion hyn ac mae Edwina Hart y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi addo rhoi ystyriaeth ddifrifol i’n gofynion. Mae’n bwysig felly ein bod yn parhau i bwyso’n galed ar lywodraeth y Cynulliad er mwyn gwneud yn siwr ei bod yn cymryd o ddifri yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymru”Pwyswch ar y ddolen i fynd i adran Ymgyrch Cymunedau Rhydd o'r wefan