![](https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/imagecache/newyddion_prif/golau-coch-llandudno.jpg)
Mae chwech aelod o Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gadael swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, chwe awr wedi iddynt gau’r fynedfa mewn protest dros y diffyg ymateb i ganlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad.
Wrth ddod â’r brotest i ben am hanner dydd heddiw, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae chwech ohonom wedi bod yma am chwech awr, fel symbol o’r angen i’r Llywodraeth gyflawni chwe newid polisi er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cryfhau dros y blynyddoedd i ddod. Dyma oedd ein gweithred uniongyrchol gyntaf i bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu'n gadarnhaol dros y Gymraeg, ac ni chafodd neb eu harestio. Byddwn ni’n parhau â gweithredoedd heddychlon o’r fath nes i’r Llywodraeth newid ei hagwedd a dechrau gweithredu fel bod pawb yn cael byw yn Gymraeg. Rydyn ni'n grediniol y gall ein hiaith unigryw ffynnu dros y blynyddoedd i ddod gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol."
Roedd y brotest yn Llandudno yn rhan o ymgyrch ehangach y Gymdeithas sy'n rhoi pwysau ar y Llywodraeth Lafur i weithredu ar frys dros y Gymraeg. Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau, megis addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i'r iaith, a threfn gynllunio newydd er budd ein cymunedau.
Ychwanegodd:
"Ers dros flwyddyn, rydym wedi llythyra, cynnal cyfarfodydd, cymryd rhan mewn cynadleddau a trafodaethau di-ri gyda'r Llywodraeth. Nawr, trwy'r anufudd-dod dinesig yma, galwn ar Carwyn Jones a'i Lywodraeth i gymryd camau adeiladol a blaengar er mwyn sicrhau bod pawb yn cael byw yn Gymraeg. Byddwn yn parhau i ymgymryd â'r gweithredoedd yma tan i ni weld tystiolaeth o weithredu cadarnhaol dros y Gymraeg."
Daw'r brotest dros flwyddyn wedi i ganlyniadau'r Cyfrifiad amlygu sefyllfa argyfyngus yr iaith, gyda diffyg arweiniad a datblygu polisi ers hynny. Mae'r cyfnod o brotestio wedi derbyn cefnogaeth gan nifer o bobl gan gynnwys yr hanesydd ac ymgyrchydd Dr Meredydd Evans ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.
Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd casgliadau'r Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sefyllfa'r iaith yn dilyn canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad - ymysg y prif argymhellion roedd: cynyddu'r buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg yn gyffredinol; newidiadau radical i addysg Gymraeg ail iaith; a newidiadau i'r gyfraith gynllunio. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n lansio ymgyrch i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg bum gwaith y dydd. Doedd dim un gair am y Gymraeg ym mil cynllunio drafft y Llywodraeth.
Dywedodd Robin Farrar Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gychwyn y brotest:
"'Dan ni yma i siarad dros y genhedlaeth bresennol, a'r rhai i ddod, a ddylai gael byw yn Gymraeg. Rydyn ni'n grediniol y gall ein hiaith unigryw ffynnu dros y blynyddoedd i ddod gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol. Ond mae argyfwng real yn wynebu'r Gymraeg, a dyw Llywodraeth Cymru ddim yn ymateb o ddifrif. Yn lle newid polisïau a chyflwyno rhai newydd, rydyn ni wedi gweld mwy o'r un peth gan Carwyn Jones a'i Lywodraeth. Yn wir, unig syniad newydd Carwyn Jones yw ymgyrch i annog pobl i ebostio pum gwaith y dydd yn Gymraeg, er nad yw'n gwneud hynny ei hun."
"Ni allem ymddiried yn y Llywodraeth a nifer o'u uwch swyddogion I flaenoriaethu'r newidiadau i'r system gynllunio a'r gyfundrefn addysg fyddai'n angenrheidiol i gynnal y Gymraeg. Yn hytrach na dangos arweiniad cadarnhaol, mae'r Llywodraeth Lafur yn adweithio'n segur unwaith eto. Os parhawn dan weinyddiaeth ddiog, welwn ni ddim twf cadarn yn ein hiaith."
Galwad y Gymdeithas am chwe newid polisi - y “6 pheth” - cymdeithas.org/6pheth
- Protest Cymdeithas yn dod i ben - BBC Cymru
- Protest tu allan i swyddfeydd Llywodraeth Cymru - Golwg360
- Cymdeithas protesters chain themselves to Welsh Government offices - Daily Post
- Welsh language protest at 'lack of response' by government - BBC Wales
- Welsh language campaigners end protest at Llandudno Junction offices - News North Wales