Cyngor Sir Gâr yn gweithredu'n fewnol yn Gymraeg, 'Pryd cawn ni amserlen?'

Wrth ymateb i ddiweddariad i Gynllun Gweithredu Strategaeth Iaith Cyngor Sir Gaerfyrddin fe wnaeth cyfarfod Tynged yr Iaith Sir Gâr ofyn pryd fydd amserlen yn ei lle i alluogi'r cyngor i weithio'n Gymraeg.

Meddai Sioned Elin, Cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:

“Er bod y Cyngor wedi rhoi Strategaeth Sgiliau iaith mewn lle, ac er i gynghorwyr adrodd bod pethau'n newid does dim amserlen pendant. Wrth drafod heddiw daeth yn amlwg fod pobl ar draws y sir yn rhannu rhwystredigaeth, ac yn gweld nad oes cynllun hirdymor a bod angen hynny. Mae'r Safonau Iaith yn gofyn i'r Cyngor roi strategaeth mewn lle i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg felly byddai'n amserol i'r Cyngor roi amserlen mewn lle, er mwyn cael dyddiad clir i anelu at ddod yn sefydliad sy'n gweithio drwy'r Gymraeg.”

Cafodd y cyfarfod ar ddeall fod bwriad gan y Cyngor Sir herio rhai o'r Sfonau Iaith mae Comisiynydd y Gymraeg yn disgwyl iddyn nhw gydymffurfio â nhw.

Dywedodd Manon Elin, Cadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith, ac sydd hefyd yn byw yn y sir:

“Rydyn ni'n siomedig fod y Cyngor yn gwrthwynebu yn hytrach na gofyn am fwy o amser. Dylai'r Cyngor abelu at yr un lefel o ddarpariaeth Gymraeg â Chyngor Gwynedd ond rydyn ni'n derbyn y byddai angen mwy o amser. Rydym wedi beirniadu’r Comisiynydd am y lefel isel o Safonau sydd ar Sir Gâr, gan eu bod nhw’n sylweddol is na'r hyn sy’n ofynnol gan Gyngor Gwynedd.

"Dylai'r Cyngor ofyn am fwy o amser i gyflawni'r safonau ychwnaegol yn hytrach na herio'r rhai isaf. Os ydy'r Cyngor o ddifrif ynglŷn â symud at weinyddiaeth fewnol, dylen nhw ymrwymo i gyrraedd yr un lefel o Safonau â Gwynedd.”

Lluniau

Y stori yn y wasg:

Sir Gâr: 'angen amserlen i newid iaith gwaith' - Golwg360

Grŵp Iaith yn galw am amsserlen - BBC Cymru Fyw