Mae siaradwr Cymraeg 82 mlwydd oed o Ynys Môn sy'n dioddef o dementia yn wynebu cael ei symud i ysbyty yn Stafford er nad oes gwasanaeth Cymraeg yno.
Mae Mr Thomas Griffith Jones yn briod ers 62 o flynyddoedd ac yn hen daid. Mae’n dioddef o dementia o’r fath sy’n achosi ymddygiad heriol. Ar ôl cael ei symud yn ôl ac ymlaen rhwng Ysbyty Cefni ac Ysbyty Gwynedd, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn bygwth ei symud i ysbyty ger Birmingham oherwydd maent yn honni nad oes cyfleusterau addas ar ei gyfer yng ngogledd Cymru.
Cymraeg yw iaith gyntaf Mr Jones ac, oherwydd ei gyflwr, mae cael derbyn gofal trwy’r Gymraeg yn fater o angen clinigol iddo bellach yn hytrach na mater o ddewis. Pe byddai’n cael ei symud i Stafford, gall hyn fod yn hollol niweidiol i’w iechyd a lles, heb son am osod straen ychwanegol sylweddol ar y teulu.
Dywed Gwerfyl Roberts, llefarydd iechyd Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’r sefyllfa’n hollol frawychus ac yn gwbl annerbyniol. Nid yw’n deg ar unrhyw un sydd mor fregus i orfod symud mor bell oddi cartref a derbyn gofal a thriniaeth gan staff sydd ddim yn siarad ei iaith naturiol. Tybed faint mwy o gleifion sy’n cael eu symud i Loegr? O’r dystiolaeth rydym wedi ei weld, mae’n amlwg mai nid hwn yw’r achos cyntaf, er bod digonedd o ymchwil sy’n dangos sut y gall unigolion o’r fath elwa o gael derbyn gofal trwy’r Gymraeg. Yn wir, mae’n codi cwestiynau sylfaenol am hawliau dynol unigolion.”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd a Chomisiynydd y Gymraeg am yr achos.