Pwll Nofio Amlwch - Dim Gwasanaeth Cymraeg

Mae ymgyrchwyr iaith wedi gwneud cwyn wedi pryderon am y diffyg clybiau nofio cyfrwng Cymraeg ar gael ym mhwll nofio Ynys Mon, er bod mwyafrif trigolion y sir yn siarad Cymraeg.

Mae'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod angen hawliau clir i wasanaethau hamdden yn Gymraeg yn y safonau a fydd yn cael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth yn y flwyddyn newydd.

Daeth y broblem yn Amlwch i'r amlwg pan gysylltodd ffermwr o ardal Llannerchymedd, Ynys Môn, Sïon Roberts a swyddfa'r Gymdeithas yn y gogledd er mwyn cwyno am ddiffyg clybiau nofio drwy gyfrwng y Gymraeg yn Amlwch.

Bydd y grŵp pwyso yn cynnal rali yn Aberystwyth ar Ragfyr y 14eg, blwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad, er mwyn atgoffa’r Llywodraeth o’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i weithredu. Mae’r mudiad wedi rhoi tan Chwefror 1af i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i weithredu mewn chwe maes polisi, gan gynnwys yr hawl i wasanaethau hamdden yn Gymraeg, er mwyn sicrhau ymateb digonol i argyfwng yr iaith a ddangoswyd yng nghanlyniadau'r Cyfrifiad.

Dywedodd Sion Roberts, 40 mlwydd oed o Lannerchymedd a thad i 3 o blant:

“Yn ystod gwyliau hanner tymor yr ysgol, mi benderfynais y byddwn yn hoffi mynd a fy mhlant i glwb nofio oedd yn cael ei hysbysebu gan Gyngor Ynys Môn ym mhwll nofio Amlwch. Roedd hyn yn gyfle da i mi dreulio amser gyda fy mhlant yn ystod gwyliau'r ysgol, ac yn gyfle hefyd iddyn nhw ddysgu nofio”

“Wrth reswm, ni feddyliais am un eiliad na fydda'i'r clybiau hynny yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ein bod ni'n byw yn un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru. Cefais fy siomi yn enbyd o weld nad oedd unrhyw un o staff y pwll nofio yn medru'r Gymraeg, a bod yr holl wers yn cael ei chynnal drwy gyfrwng y Saesneg.”

Ychwanegodd Mr Roberts:

“Fel un sydd yn hanu o'r ardal, dwi'n cofio'n iawn mynychu clybiau tebyg pan oeddwn i'n blentyn, Cymraeg oedd iaith y clybiau hynny, boed yn glybiau nofio, rygbi neu bêl-droed, ond mae'n edrych yn debyg bod pethau wedi newid bellach. Fel un sydd am weld ei blant a'i deulu yn byw bywyd llawn drwy gyfrwng y Gymraeg, tydi hyn ddim yn dderbyniol o gwbl. Dwin talu fy nhreth cyngor fel pawb arall, ac yn anfodlon iawn gyda sefyllfa lle mae'r gwasanaethau Cymraeg yn crebachu i ddim”

Ychwanegodd Osian Jones – Swyddog Maes Gogledd Cymru Cymdeithas yr Iaith.

“Mae gan Gyngor Ynys Môn gyfrifoldeb o gynnig gwasanaethau hamdden drwy gyfrwng y Gymraeg, heb wneud hynny, mae'r Cyngor yn methu yn ei dyletswyddau i gymunedau'r sir ac i ddyfodol y Gymraeg. Fel ymateb i ganlyniadau siomedig y Cyfrifiad, un o ddatganiadau cyson y Prif Weinidog oedd mai yn nwylo pobol ifanc yr oedd dyfodol y Gymraeg, gadewch i'r bobol hynny fyw ei bywydau yn llawn drwy gyfrwng y Gymraeg felly, ym mha bynnag cymunedau y maent yn byw. Ni allai gredu na all Carwyn Jones wedi gwneud y cysylltiad amlwg rhwng diffyg gwasanaethau yn Gymraeg a dirywiad yn nifer y siaradwyr. ”

“Pa fath o neges y mae hyn yn ei yrru i blant Sion? Cewch ddefnyddio'r Gymraeg a'r yr aelwyd ac yn yr ysgol, ond peidiwch a disgwyl gormod y tu allan i hynny.”

Ychwanegodd Sion Roberts

“Rydym wedi hen, hen flino ar gael ein cloi allan o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein cymuned. Rydym yn annog pawb sydd yn teimlo fel ni, i ddod i Aberystwyth ar Rhagfyr 14eg er mwyn mynnu ein bod yn gallu byw ein bywyd yn llawn drwy gyfrwng y Gymraeg”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gyrru llythyr at Gyngor Sir Ynys Mon am y cwyn.