Radio Ceredigion - dim Cymraeg yn y dyfodol?

Radio Ceredigion.pngGall fod dim allbwn Cymraeg ar Radio Ceredigion yn fuan ar ôl i'r rheoleiddiwr darlledu OFCOM ganiatáu i'r tendr am drwydded fynd allan heb unrhyw amodau iaith i'r gwasanaeth.Mae'r penderfyniad yn dilyn ymgyrch gref yn lleol fis Gorffennaf a lwyddodd i wrthod cais perchnogion Radio Ceredigion - Town and Country Broadcasting - i gwtogi ar allbwn Cymraeg presennol yr orsaf.Ym mis Mawrth 2010, gofynnodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i Lywodraeth Cymru atal Ofcom rhag darparu trwyddedau darlledu heb unrhyw amodau i ddarparu gwasanaeth Cymraeg. Ond nid oes penderfyniad wedi dod gan y Llywodraeth. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Leighton Andrews, y gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn y Cynulliad, yn gofyn iddo wneud penderfyniad ar frys ar ddyfodol y Gymraeg ar radio lleol.Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Nid yn unig mae Radio Ceredigion yn ceisio lleihau ei darpariaeth Gymraeg ond mae Real Radio wedi cael trwydded i ddarlledu drwy Gymru gyfan heb ddatgan unrhyw fwriad i gynnig darpariaeth Gymraeg felly does dim dwywaith fod pethau'n dirywio'n sylweddol. Gall y llywodraeth dynhau rheolau a pholisïau iaith OFCOM yng Nghymru er mwyn sicrhau na fydd dirywiad pellach ac mae angen gwneud hynny'n syth. Rhaid i Leighton Andrews yn awr ddilyn cyngor Bwrdd yr Iaith a gorfodi Ofcom i gynnwys cymal yn eu cynllun iaith a fydd yn ei cymell i ystyried natur ieithyddol yr ardal pan yn dyfarnu trwyddedau radio lleol."Ychwanegodd Bethan Williams:"Ers i Town and Counrty Broadcasting ddod i reoli Radio Ceredigion mae'r Gymraeg wedi mynd yn fwyfwy ymylol, a'r gwasanaeth yn llai cynrychioladol o'r gymuned y mae i fod i'w wasanaethu gan roi pwyslais ar wneud elw. Mewn ardal lle mae dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg dylai Radio Ceredigion, fel pob gorsaf radio lleol yng Nghymru, fod yn adlewyrchu'r galw yn hytrach na thorri arno. Mae'r ystod o orsafoedd sydd ar gael nawr yn Saesneg wedi ffrwydro, tra bo'r hyn sydd ar gael yn y Gymraeg wedi crebachu'n sylweddol. Mae'r profiad hwn yn cryfhau ein dadleuon fod angen datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yma i Gymru."