Daeth tua 150 o bobl i Hwlffordd ddoe (Sadwrn 9fed) i alw ar y Cyngor i gymryd y Gymraeg 'o ddifrif' yn y rali gyntaf i Gymdeithas yr Iaith ei gynnal yn Sir Benfro ers rhai blynyddoedd.
Mae aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas wedi bod yn galw ar y Cyngor Sir ers rhai misoedd i ddatgan mai Cymraeg yw iaith y Cyngor Sir ac wrthi yn llunio cyfres o alwadau penodol y gall y cyngor ddechrau gweithredu arnyn nhw yn syth er mwyn gwireddu hyn.
Mae hyn yn dod hefyd wedi i Gyngor Sir Penfro hysbysebu swydd gweithiwr cymdeithasol a oedd yn dweud fod y Gymraeg yn iaith gyntaf i rai pobl mewn rhannau o Ogledd Penfro ac mai dim ond dysgu rhai brawddegau Cymraeg fel mater cwrteisi fyddai angen i weithwyr wneud os oeddynt yn dymuno. Wrth annerch y dorf dywedodd Hefin Wyn:
“Galwn ar Gyngor Sir Penfro i fabwysiadu agwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg heb fod trethdalwyr yn gorfod gofyn byth a hefyd am wasanaeth Cymraeg. Dros 60 mlynedd nol roedd Cyngor Sir Penfro yn gwbl unol a chefnogol i'r frwydr i gadw Mynyddoedd y Preselau'n rhydd o filitariaeth. Enillwyd y frwydr honno am fod Sir Benfro gyfan yn unol. Galwn ar y cyngor sir i fod yr un mor unol yn yr ymdrechion i ddiogelu'r Gymraeg.
"Does dim balchder yn cael ei ddangos yn y ffaith fod yr iaith yn dal i gael ei siarad yn y sir a bod llawer ohonom am weld ei goroesiad. Nid yw'r Gymraeg wedi'i chyfyngu i ryw gornel diarffordd o'r sir. Galwn am gyfarfod gyda'r Prif Weithredwr - a neb llai na'r Prif Weithredwr - i drafod eu strategaeth i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg."
Rhoddwyd cyfle i bobl ddweud am eu profiadau nhw. Ymysg y rhai oedd yn dweud am eu profiadau nhw oedd Gaynor Watts-Lewis o Foncath a oedd yn dweud am y drafferth o gael gwersi nofio a dawnsio yn Gymraeg i'w phlant yng nghanolfannau hamdden y sir a Jackie Lewis a oedd yn sôn am y pryder fod y Cyngor Sir yn ystyried stoopio'r gwasanaeth llyfrgell symudol. Mae canran uchel o'r llyfrau sy'n cael eu benthyg yn rhai Cymraeg - ac mae'r fan llyfrgell yn hanfodol i'w gŵr fel i nifer o bobl eraill sydd yn sal neu yn methu mynd i lyfrgell.
Casglwyd enghreifftiau o brofiadau y dorf hefyd - os oes gyda chi brofiad i'w rannu cysylltwch gyda Bethan Williams, sydd yn gweithio i Gymdeithas yr Iaith yn yr ardal: 07981 343313 neu bethan@cymdeithas.org.
Y bwriad nawr yw gofyn Bryn Parry-Jones i drafod ymhellach - a bydd cyfarfod gan Gymdeithas yr Iaith eto ddechrau Ebrill.
Lluniau - http://cymdeithas.org/lluniau/ralipenfro
Y stori yn y wasg:
Golwg360: Rali Iaith i "Gymreigio" Sir Benfro
BBC - Cymdeithas: Galw am Gymreigio Sir Benfro