Rhannu a Rheoli yn Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Swyddogion Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin o fabwysiadu agwedd oer o 'rannu a rheoli' yn eu cenhadaeth i gau ysgolion pentrefol Cymraeg a sefydlu addysg ganoledig a biwrocrataidd.

Yn eu hymateb ysgrifenedig i Ddogfen ymgynghorol y Cyngor ar ddyfodol Ysgol Llansadwrn, mae'r Gymdeithas yn egluro fod tynged un ysgol, unwaith yn rhagor, yn cael ei benderfynu ar wahân i dynged ysgolion o'i chwmpas.Esbonia llefarydd y Gymdeithas ar Addysg Ffred Ffransis:"Llynedd, targedwyd Ysgol Mynyddcerrig yn neulltiol gan y Cyngor gan oedi trafod dyfodol Bancffosfelen gyfagos am 2 flynedd er mwyn ei wneud yn anodd sefydlu arallddewis hyfyw, megis ffederaleiddio, i gau ysgolion. Dyma nhw eto yn trafod dyfodol Ysgol Llansadwrn tra'n aros am 2 flynedd arall cyn trafod dyfodol ysgolion cyfagos, a hynny er mwyn osgoi gwrthwynebiad unedig i'w cynigion.""Mae'r Cyngor yn amlwg yn credu y gall ei hymgyrch yn erbyn ysgolion pentrefol lwyddo orau trwy effaith domino. Maent yn ynysu'r ysgolion sydd yn eu tyb nhw yn dargedau hawdd, gan obeithio gorfodi eu cau a digalonni rhieni ysgolion cyfagos fel eu bod yn ildio""Ond mae'r Cyngor wedi is-farnu ysbryd y Llywodraethwyr a'r cymunedau lleol yn Mynyddcerrig a Llansadwrn. Yr ydym yn annog pawb i gefnogi'r 2 ysgol fach yn ei safiad yn erbyn Awdurdod maleisus sydd wedi bod yn cynllwynio yn eu herbyn!"Rhaid i bob ymateb i'r ymgynghori ar ddyfodol Ysgol Llansadwrn gyrraedd y Cyngor erbyn penwythnos cyn Dydd Llun Chwefror 5ed.