Rhieni yn cyflwyno deisebau i Gyngor Ceredigion

Cyflwyno DeisebMewn ymateb i gynlluniau arfaethedig Awdurdod Addysg Ceredigion i gau chwech o ysgolion cynradd yn ardal Llandysul ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi, mae rhieni pedwar o'r ysgolion wedi llunio deisebau a fydd yn cael eu cyflwyno tu allan i brif adeilad y Cyngor ym Mhenmorfa heddiw (Dydd Mercher, 3ydd Mawrth, 4pm).Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith a rhiant yn Ysgol Llandysul:" Mae yna wrthwynebiad cryf yn yr ardaloedd yma i gynlluniau'r Cyngor Sir i gau ysgolion pentrefol yr ardal a chreu un Ysgol 3-19 oed. Gwelir maint y gwrthwynebiad yn y nifer o bobl sydd wedi arwyddo'r deisebau, gyda dros 200 o rieni ac aelodau o gymunedau Capel Cynon a Coed y Bryn a dros 120 o Aberbanc wedi arwyddo'r deisebau a dros 130 o rieni wedi arwyddo deiseb Ysgol Gynradd Llandysul."

Dywed Geiriad Deiseb Ysgol Gynradd Llandysul ein bod yn galw ar Gyngor Sir Ceredigion ac Ymgynghorwyr yr Astudiaeth Dichonoldeb i Ysgol 3-19 oed i edrych yn fanwl i mewn i opsiynau eraill ar gyfer ein hardal ac ein bod am ddatgan ein pryder ynghylch y posibiliad o golli ein hysgol o ganol pentref Llandysul. Ychwanegodd Angharad Clwyd:"Fe fuasai gweithredu cynlluniau'r Cyngor yn cael effaith andwyol ar gymunedau dalgylch Llandysul gan ddinistrio'r cymunedau gan gynnwys Tref Llandysul ei hun. Fe fyddai colli'r 2 ysgol o'r dref yn ychwanegol i effaith ffordd-osgoi Llandysul yn effeithio nid yn unig ar fusnesau'r dref ond ar yr ymdeimlad o gymuned.""Bydd yr effaith ar yr iaith Gymraeg hefyd yn ddifrifol gyda'r plant yn cysylltu'r iaith gyda addysg yn unig a ddim yn rhan o fywyd eu cymuned. Fe fydd y pentrefi yn naturiol yn heneiddio gyda theuluoedd ifanc yn dewis symud i ardaloedd eraill i fyw. Bydd plant cynradd ifanc 3/4 oed o bosibl yn cael eu heithrio yn gyfangwbwl o'r cyfnod sylfaen holl bwysig yn yr ardaloedd yma gan nad oes yr hawl ganddynt i deithio ar fysiau. Yn ychwanegol i hyn oll fe fydd effaith amgylcheddol negyddol gyda'r Cyngor Sir yn mynd yn hollol groes i'w strategaeth Cadw'n Iach gan orfodi plant i deithio mewn cerbydau i'r ysgol ac yn ei wneud yn hollol amhosibl i'r plant gerdded i'r ysgol."Ychwanegodd Ffred Ffransis, Llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith:"Does neb yn ardal Llandysul yn credu fod unrhyw fwriad yn y byd gan Gyngor Ceredigion i wrando ar unrhyw farn arall. Dyna paham eu bod wedi comisiynu Astudiaeth Dichonolrwydd yn unig i'w cynllun nhw eu hunain yn hytrach nag edrych ar yr holl bosibiliadau. Ond mae'r ymateb i'r deisebau hyn yn dangos awydd rhieni i frwydro dros addysg eu plant, a dyfodol eu cymunedau."erthygl Tivy Side 4/3/2010erthygl-tivy-side-mawrth-10-bach.jpgerthygl-journal-mawrth-10-bach.jpgerthygl-cambrian-news-10-bach.jpg