MAE gan Carwyn Jones chwe mis i brofi nad ‘siop siarad’ oedd y Gynhadledd Fawr, yn ôl ymgyrchwyr iaith sydd wedi gosod wltimatwm i Lywodraeth Cymru heddiw.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan bod angen gweld symud ar chwe phwynt polisi er mwyn profi bod y Gynhadledd Fawr wedi bod yn werth chweil. Mae’r llythyr yn gofyn i Carwyn Jones weithredu ar y chwe phwynt polisi canlynol:
* Dileu "Cymraeg ail iaith" a symud yn syth tuag at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn cyfran o'i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg;
* Cyhoeddi patrymau gwariant newydd, yn dilyn ei hasesiad effaith iaith traws-adrannol o’r gyllideb a dilyn enghraifft Gwlad y Basg gan wario 4 gwaith yn fwy ar brosiectau penodol Cymraeg;
* Sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd i ragor o gyrff cyhoeddus ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd drwy symud at weinyddu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg;
* Sefydlu hawliau i bobl Cymru allu defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd trwy’r safonau iaith newydd, gan gynnwys sefydlu’r hawl i gael cyfleoedd i wneud gweithgareddau hamdden yn Gymraeg; yr hawl i weithwyr ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a’r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith;
* Creu system gynllunio newydd - cyhoeddi fersiwn newydd o Nodyn Cyngor Technegol 20, a sicrhau ei fod mor gryf â phosib a datgan bod angen chwyldroi’r system gynllunio ar sail anghenion cymunedau lleol ac er lles y Gymraeg;
* Gwneud y Gymraeg yn rhan o ddiffiniad datblygu cynaliadwy yn y bil cynaliadwyedd newydd, Bil Cenedlaethau’r Dyfodol
Bydd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn annerch cyfarfod ar faes yr Eisteddfod heddiw (11:30yb, Dydd Mawrth) yn trafod cynaliadwyedd a’r Gymraeg lle bydd yn ymhelaethu ar yr her i’r Prif Weinidog. Ymysg y siaradwyr eraill fydd Cadeirydd pwyllgor amgylchedd y Cynulliad Dafydd Elis Thomas AC.
Yn y llythyr, mae arweinwyr y Gymdeithas yn dweud: “Credwn fod angen arweiniad clir er mwyn gwyrdroi sefyllfa’r Gymraeg - credwn y dylech chi fel Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg ddangos yr arweiniad hwnnw dros y 6 mis nesaf. O wneud hynny, ac o fabwysiadu’r polisïau a restrir yn ein Maniffesto Byw, credwn ei bod yn bosib sicrhau dyfodol y cymunedau sy’n cynnal y Gymraeg fel iaith fyw a gweld cynnydd sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Rydym yn mynnu eich bod yn cymryd chwe cham sylfaenol yn ystod y chwe mis nesaf i brofi nad siop siarad oedd y gynhadledd...”
Gan bwyleisio’r angen am chwyldroi’r gyfundrefn gynllunio, medd y llythyr: “Nid nawr yw’r amser am newidiadau bychain i’r system gynllunio. Am lawer rhy hir, mae’n cymunedau a’n pobl - boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio - wedi dioddef effeithiau negyddol y farchnad rydd. Yn hytrach na gwasanaethu pobl a chymunedau, mae’r farchnad dai a’r gyfundrefn gynllunio wedi cymryd mantais ohonynt. Mae pwerau deddfu newydd Cynulliad Cymru yn cynnig cyfle i dorri’n rhydd o’r meddylfryd neo-ryddfrydol hwnnw. Hefyd, mae angen ateb Cymru-gyfan yn hytrach nag un sydd dim ond yn amddiffynnol ynglŷn â'r Gymraeg. Cred y Gymdeithas fod gan bob cymuned botensial i fod yn gymuned Cymraeg, a dylai'r system gynllunio gyfrannu at dyfu’r Gymraeg, yn hytrach na dim ond amddiffyn y cymunedau Cymraeg sy’n bodoli eisoes.”
Yn ôl ar ddiwedd mis Mai, dywedodd Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Lisa Erin, wedi iddi gymryd rhan yn y fforwm ieuenctid cyntaf gyda’r Prif Weinidog fel rhan o’r Gynhadledd Fawr: “I mi, oedd o'n ychydig bach o PR stunt... Oedd [y fforwm] yn lot o siarad gwag. Doedd o ddim yn esbonio dim sut oedd o'n mynd i newid unrhyw beth, oedd o'n newid y pwnc o hyd... O'n i'n teimlo'n reit rhwystredig.”