Rhwystro gwerthiant Marks and Spencer

Daeth busnes Marks and Spencer Caerfyrddin i stop am hanner awr prynhawn yma (dydd Sadwrn 3ydd o Awst) wedi i aelodau o Gymdeithas yr Iaith wrthod talu am eu siopa.
 
Llanwyd trolis gyda thuniau a jariau o fwyd o'r siop a mynd â nhw at y mannau talu cyn i'r ymgyrchwyr ddweud nad oedden nhw am brynu'r bwyd am nad oedd Marks and Spencer wedi cadw at yr addewid y byddai arwyddion parhaol y siop i gyd yn ddwyieithog wedi iddynt gael eu hadnewyddu.
 
Meddai Hazel Charles Evans, un o drefnwyr ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i Gymreigio'r siop:
 
“Mae nifer o bobl yr ardal yn siopa yma ac eisiau gwneud hynny yn Gymraeg, dylai Marks and Spencer barchu hynny. Heddiw fe ddaethon ni yma i wneud ein siopa a gweld nad oes unrhyw beth mawr wedi newid ers i ni gwrdd gyda nhw – mae gwasanaeth Gymraeg y siop yn dal i fod yn fethiant a ni wedi ein siomi, felly fe wnaethon ni wrthod prynu beth oedden ni wedi bwriadu gwneud.
 
“Dydy M&S ddim yn dangos unrhyw barch tuag at eu cwsmeriaid yma yng Nghymru ac mae hynny wedi achosi anniddigrwydd mawr yn nhre Caerfyrddin a'r cyffiniau. Dim ond pythefnos yn ôl roedd yn agos i 100 o brotestwyr yn amgylchynu'r siop yma gyda phants ac yn dweud wrth Marks and Spencer fod eu polisi iaith yn 'pants'. Trwy weithredu fel hyn bydd Marks and Spencer yn dechrau gweld fod drwgdeimlad, a gobeithio y gallwn ni ddod yma i siopa eto. Doedden ni ddim am darfu ar gwsmeriaid na staff y siop, ond roedden nhw'n deall ein cwyn.
 
Synnwyd staff y siop a chwsmeriaid wrth i'r protestwyr ddod â'r siop i stop a daeth is-reolwr y siop i siarad gyda'r protestwyr gan addo eto y byddai pethau yn newid.
 
Ychwanegodd Hazel Charles Evans: “Mae'r is-reolwr wedi dweud fod trafodaethau mewnol yn mynd i digwyydd ynglyn ag arwyddion a pholisi iaith iaith y siop. Ond fe gwrddon ni a rheolwr y siop a swyddogion y cwmni cyn iddyn nhw fynd ati i ail-frandio'r siop ddechrau eleni - mae'r arwyddion Saesneg wedi mynd nol lan ond nid y rhai Cymraeg. Ers hynny rydyn ni wedi picedu a phrotestio, ac mae dau arwydd Cymraeg wedi eu codi – 'lifft' a 'neuadd fwyd. Dyma addewid arall am arwyddion Cymraeg nawr, ond pryd fyddwn ni'n gweld newid? Mae pobl Caerfyrddin yn mynnu byw yn Gymraeg - ac mae hynny yn cynnwys siopa.”
 
Y stori yn y wasg:
Protesters bring shop to standstill - Carmarthen Journal 07/08/13