Rhwystro Swyddogion Addysg Cyngor Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBu 50 o aelodau Cymdeithas yr Iaith a Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gâr yn rhwystro cerbyd swyddogion addysg Cyngor Sir Caerfyrddin rhag ymadael a'r maes parcio cymunedol ym Mynydd Cerrig am awr o hyd neithiwr (Iau 08/06/06), yn dilyn cyfarfodydd o ymgynghori am ddyfodol yr ysgol gyda rhieni a llywodraethwyr.

Gorffennodd y cyfarfodydd ffurfiol am 7.15pm, ac yna gwrthododd y swyddogion drafod eu Strategaeth Addysg gydag aelodau o'r Gymdeithas a rhieni o ysgolion eraill a ddaethant i gefnogi Mynydd Cerrig.Rhwystrwyd eu car rhag ymadael a'r maes parcio am awr o amser hyd nes y penderfynwyd ei bod yn amser i rieni fynd a'u plant yn ol i'r gwely.Ymdynghedodd y protestwyr i ail-ymgynnull ar raddfa lawer fwy tu allan i Neuadd y Sir ar Fore Mercher 12ed Gorffennaf pan fydd y swyddogion yn gosod canlyniadau'r ymgynghori o flaen Bwrdd Gweithredol y Cyngor.protest-mynyddcerrig.jpgprotest-mynyddcerrig1.jpgprotest-mynyddcerrig2.jpgprotest-mynyddcerrig3.jpgprotest-mynyddcerrig4.jpg