Mae aelodau lleol o fudiad iaith wedi mynd ati i godi posteri ar swyddfa David Jones yn etholaeth Gorllewin Clwyd heno (Nos Sul 27/02/11) fel rhan o ymgyrch dros gadw annibyniaeth S4C.Mae'r posteri sydd yn datgan "David Jones Gwrandewch ar lais y pobl Cymru", yn rhan o ymgyrch genedlaethol gan y gr?p ymgyrch sydd yn honni fod y Llywodraeth a'r BBC yn cydweithio ar gynllun a fyddai'n gael gwared ar S4C.Mae arweinydd pob plaid yng Nghymru wedi galw ar Jeremy Hunt i atal y cynlluniau presennol ar gyfer S4C, a fyddai'n rhoi S4C dan y BBC ac yn torri dros 40% o'i chyllid. Mae'r Gweinidog wedi anwybyddu hyn, sydd wedi cythruddo pobl Cymru, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Nid yw Llywodraeth Prydain wedi ystyried na chynnwys cynrychiolaeth o Gymru yn eu cynlluniau ar gyfer S4C o gwbl yn y broses hon sydd yn hollol sarhaus. Rydym am bwyso ar Lywodraeth Prydain i wrando ar alwad ein pleidiau gwleidyddol er mwyn gallu gwneud penderfyniad synhwyrol ar ddyfodol y sianel."Sefydlwyd y sianel yn dilyn brwydr hir gan bobl Cymru a nawr mae'r Llywodraeth glymblaid a'r BBC yn tanseilio hyn oll."
Mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni y byddai S4C yn colli'i hannibyniaeth dan y cynllun presennol ac na fydd yn ddim mwy nag adran arall o'r BBC. Nid ydynt o'r farn bod hynny'n drefniant rhesymol na derbyniol ar gyfer pobl Cymru. Meddai un o'r gweithredwyr:"Mae nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith yn yr ardal yn poeni am ddyfodol S4C dan gyd-gynllun presennol y Llywodraeth a'r BBC. Mae'r blaid Geidwadol wedi datgan y byddai S4C yn ddiogel yn eu dwylo, ond nid yw'n haelod Seneddol ni wedi gwneud unrhyw beth er mwyn sicrhau dyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg. Rydyn ni wedi dod i ddangos ein bod ni'n poeni, er nad yw e."Ychwanegodd Bethan Williams:"Mae'r weithred heno yn dangos difrifoldeb y sefyllfa a'r awydd sydd gan bobl i frwydro yn erbyn bygythiadau i'n sianel Gymraeg. Mae'n hymgyrch yn mynd o nerth i nerth a byddwn yn parhau nes i ni gael sicrwydd o annibyniaeth S4C a chyllid digonol mewn statud i alluogi hynny."