Sion Corn yn Rhoi Rhestr Siopa'r Gymraeg i Siop Orange yn Aberystwyth

Sion CornGall Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddatgelu bydd Sion Corn yn ymweld â siop ffoniau symudol 'Get Connected', Ffordd y Môr, Aberystwyth ddydd Sadwrn yma (13/12) am 1pm ac yn tynnu o'i sach rhestr o wasanaethau yr hoffai weld cwmni Orange yn darparu yn y Gymraeg. Fe fydd Sion Corn yn trosglwyddo'r rhestr i weithwyr y siop gan ofyn iddynt ei ddanfon ymlaen at gwmni Orange, yn ogystal a gofyn i'r siop i gefnogi galwad y Gymdeithas trwy fynnu gwasanaeth dwyieithog i'w cwsmeriaid.

Mae Sion Corn yn ymuno ag ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros y flwyddynddiwethaf i weddnewid y sector breifat. Mae'r Gymdeithas wedi bod yntargedi 2 gwmni preifat bob 2 fis trwy gydol y flwyddyn ganganolbwyntio ar gwmniau ffon Orange a Vodafone ym misoedd Tachwedd aRhagfyr. Yn dilyn ymatebion gwarthus wrth y cwmniau hyn, fe fydd yGymdeithas dan arweiniad Sion Corn yn cyflwyno'r gofynion i siop'Orange' yn Aberystwyth ar Ragfyr 13eg ac yna yn mynd ymlaen i siopauOrange a Vodafone yng Nghaerfyrddin erbyn 11am ar Ragfyr 20fed cynhedfan i fyny i Gaernarfon erbyn y prynhawn ac ymlaen i Fangor yrwythnos ddilynol.Meddai Sion Corn:"Mae nifer o bobl Cymru wedi gofyn am ffôn symudol fel anrheg i'whosan eleni eto. Os yw'r Gymraeg am fod yn rhan normal o'n bywydau,rhaid i'r cwmniau hyn roi hawliau teg i'w cwsmeriaid a thrin yr iaithGymraeg fel iaith swyddogol."Wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddisgwyl am gyhoeddiad am yr LCOsef y gorchymyn fydd yn symud pwerau dros yr iaith Gymraeg o Lundain iGaerdydd, meddai Angharad Clwyd:"Nid ydym yn disgwyl dim llai na gweld yr holl bwerau dros yr iaith yncael eu symud i Fae Caerdydd. Dyma'r unig beth sy'n foesol dderbyniol.Gyda'r grym hwn, disgwyliwn i Lywodraeth Cymru'n Un gymryd arweiniad achynnwys y cwmniau ffôn yn y mesur iaith newydd."Mae Sion Corn wedi trefnu i gyfarfod a'i helpwyr y tu allan i Siop y Pethe ynAberystwyth am 1pm ddydd Sadwrn cyn cerdded draw at y siop ffôn arFfordd y Môr.Manylion pellachRhestr o'r gofynion:1. Arwyddion allanol a mewnol, gan gynnwys arwyddion parhaol a drosdro, a thaflenni hyrwyddol dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yn hollganghennau'r cwmni yng Nghymru.2. Hyfforddi'r holl staff sy'n dod i gysylltiad â chwsmeriaid yngNghymru, boed mewn siop neu ar y ffôn, i siarad Cymraeg.3. Adran Gymraeg ar eu gwefan ar gyfer cwsmeriaid yng Nghymru.4. Cyfriflen a gohebiaeth ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) i'w ddanfonat bob cwsmer yng Nghymru.5. Llinell ffôn penodol ar gyfer cwsmeriaid yng Nghymru, gydag opsiwnieithyddol ar gychwyn yr alwad.6. Hysbysebu'n ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yng Nghymru.7. Yr iaith Gymraeg fel dewis ar eu ffonau symudol, mewncydweithrediad â'r gwneuthurwyr ffonau symudol.8. Gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid yng Nghymru ar gyfer eugwasanaethau eraill sy'n bodoli ar hyn o bryd, megis Band Llydan, acunrhyw ddatblygiadau newydd gan eu cwmni yn y dyfodol.Lluniau o'r Biced yn Aberystwyth:Piced 'Dolig Aberystwyth 2008Piced 'Dolig Aberystwyth 2008Piced 'Dolig Aberystwyth 2008Piced 'Dolig Aberystwyth 2008Piced 'Dolig Aberystwyth 2008Piced 'Dolig Aberystwyth 2008Lluniau: Rhys Llwyd