Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn gofyn am ymchwiliad i bolisi Sports Direct o wahardd defnydd y Gymraeg.
Dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r adroddiadau hyn wir yn frawychus. Mae'n warthus beth mae'r cwmni yn ei wneud. Ers 2011, mae'n anghyfreithlon i gwmniau ymyrryd â rhyddid unigolion i siarad Cymraeg â’i gilydd. Rydyn ni wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddi gychwyn ymchwiliad yn syth. Mae hyn hefyd yn pwysleisio'r angen i’r holl sector breifat ddod o dan ddeddfwriaeth iaith a phwysigrwydd Comisiynydd cryf. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld manylion y ddeddf iaith newydd gryfach gan y Llywodraeth yr wythnos hon.”
“Yn sgil Brexit, mae’n bwysig bod pobl yn dathlu amrywiaeth er lles ein holl ddiwylliannau a chymunedau yng Nghymru.”