Steddfod: Cartref newydd i'r Gorlan ar faes gwersylla Cymdeithas

Mae'r Gorlan, elusen sy'n darparu gwasanaeth ymarferol a gofal bugeilio gan wirfoddolwyr i eisteddfotwyr ers yr 1980au, wedi dod o hyd i gartref newydd ar faes gwersylla Cymdeithas yr Iaith ar Fferm Penrhos, Bodedern ar gyfer yr Eisteddfod yn Ynys Môn eleni.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn trefnu wythnos lawn o adloniant amgen ynghyd â maes gwersylla ar Fferm Penrhos ym mhentref Bodedern, cartref yr Eisteddfod eleni. Ymysg yr artistiaid sy'n perfformio yn ystod yr wythnos mae Kizzy Crawford, Geraint Jarman, Steve Eaves, Meinir Gwilym, Plant Duw, Tudur Owen a Bryn Fôn. Mae dwy noson wedi gwerthu allan yn barod ond mae modd archebu tocynnau a lleoedd ar y maes gwersylla drwy fynd i http://cymdeithas.cymru/steddfod.

Meddai Rhys Llwyd, swyddog adloniant Cymdeithas yr Iaith:

"'Dyn ni wrth ein boddau bod gwirfoddolwyr Y Gorlan wedi cynnig eu gwasanaeth i ni eleni ar ein safle sy' lai na milltir o faes y 'Steddfod ei hun. Yn sicr, bydd yn ychwanegu at yr ymdeimlad o ŵyl ar y fferm ac yn ychwanegu at brofiad y rhai fydd yn aros gyda ni ac yn dod i'n gigs. Cwmnïau lleol fydd yn darparu y bwyd cynnes gyda'r nos, a bydd y Gorlan yn darparu rhywbeth gwahanol. 'Dyn ni'n gweithio ar y cyd gyda Mudiad Ffermwyr Ifanc yn barod, nhw fydd yn rhedeg y bâr, felly mae partneriaeth gyda mudiad gwirfoddol arall yn drefniant addas iawn. 'Dyn ni'n credu mai un o brif fanteision cael gŵyl symudol yw'r gallu i gydweithio gyda phobl leol a phartneriaid eraill. Mae'n hyfryd bod gwirfoddolwyr Y Gorlan yn awyddus i gyfrannu at ein hwythnos fydd yn wir ddathliad o ddiwylliannau Cymraeg, wedi ei gwreiddio yn y gymuned."

Ychwanega Steffan Morris ar ran pwyllgor y Gorlan:

"Ar ôl blynyddoedd o gyd-weithio hapus gyda maesb mae'n destun calondid bod gwaith y Gorlan am barhau mewn lleoliad gwahanol. Mi fydd natur y gwasanaeth byddwn ni'n ei gynnig yn newid rhywfaint, ond yr ethos yn aros yr un peth – mi fyddwn ni'n syml iawn yn rhedeg bâr te a choffi 'cyfrannu i rannu', estyn gofal bugeiliol a chwilio am ffyrdd ymarferol i roi cymorth i bobl yn ystod yr wythnos. Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at yr ŵyl ac at ofalu am y bobl sy'n mynd i'r gigs a'r maes gwersylla ar Fferm Penrhos."