Swyddogion yn rheoli Cyngor Caerfyrddin

cyngor_sir_caerfyrddin.JPG Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cael ar ddeall fod Tîm Rheoli Swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymryd arnynt eu hunain - heb ofyn i gynghorwyr etholedig - i fabwysiadu cynllun dadleuol a allai olygu cau llawer o ysgolion pentrefol yn y sir.

Daeth y cyfnod ymgynghori ar ddrafft y Cynllun Trefniadaeth Ysgolion i ben ar Ddydd Llun 3ydd Mai, a dywedwyd y byddai'n cael ei fabwysiadu'n syth os nad oedd gwrthwynebiad arwyddocaol. Ar y pryd, pwyntiodd Cymdeithas yr Iaith allan mai Dydd Llun Gwyl Banc Calan Mai oedd y 3ydd a bod yma arwydd pellach nad oedd y swyddogion addysg byth yn ystyried unrhyw farn allan gan wneud ffars o ymgynghori cyhoeddus. Credent yn amlwg fod Jane Davidson wedi rhoi rhwydd hynt iddynt ymosod ar Ysgolion Pentre.Codwyd y mater yn Siambr y Cyngor ar y 19eg o Fai pan ofynwyd cwestiwn am y Cynllun gan Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith. Gofynnodd y Cyng Martin Morris - Arweinydd y Grwp Llafur - a fyddai'n bosibl trafod y mater gan ei fod yn bwnc o bwys. Gwrthodwyd y cyfle ar y pryd.Cawsom wybod bellach fod y Tîm Rheoli o swyddogion wedi mabwysiadu'r Cynllun yn enw'r Cyngor heb gyfeirio'r mater at y cynghorwyr gan eu bod o'r farn nad oedd y gwrthwynebiad gan Gymdeithas yr Iaith a nifer o addysgwyr yn arwyddocaol.Dywed Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerfyrddin, Sioned Elin,"Mae'n amlwg fod y swyddogion yn parhau i reoli Cyngor Sir Caerfyrddin hyd y diwedd. Lle'r cynghorwyr, nid y swyddogion, oedd penderfynu a oedd ein gwrthwynebiad i gynllun o gau ysgolion yn " arwyddocaol " neu beidio. Ond gwan iawn fu'r Glymblaid Lywodraethol ers 5 mlynedd gan gymryd eu harwain o hyd gan swyddogion nad oeddent yn poeni dim am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg. Galwn ar etholwyr Sir Gaerfyrddin i ethol Ddydd Iau gynghorwyr a fydd yn arwain yn hytrach na dilyn swyddogion yn ddof. Byddwn yn galw ar y Cyngor newydd i dynnu'r cynllun hwn yn ôl yn syth."Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg newydd gyhoeddi dogfen newydd"Llwyddiant Ysgolion Pentre - Model ar gyfer ein Trefn Addysg yng Nghymru" - gallwch ddarllen copi o'r ddogfen arlein.