Tai Gwyliau Land & Lakes - mae'r frwydr yn parhau

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i benderfyniad pwyllgor cynllunio
Cyngor Sir Ynys Môn ynghylch cais cynllunio Land & Lakes am dai gwyliau ym
Mhenrhos.

Yn gynharach yn y dydd, daeth hanner cant o bobl ynghyd mewn rali er mwyn galw
ar bwyllgor cynllunio'r Cyngor i gadw at ei benderfyniad i beidio â chymeradwyo
cais cynllunio gan gwmni Land & Lakes i adeiladu tai gwyliau ar yr ynys.

Dywedodd Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd: “Rydyn
ni’n siomedig iawn i glywed y newyddion heddiw. Mae'r cwmni a'r adran gynllunio
wedi datgan na fydd rhaid cynnal asesiad o effaith iaith y datblygiad, sydd yn
dangos yn glir bod ffaeleddau amlwg yn y cais. Nid yw hwn yn ddatblygiad
cynaliadwy oherwydd fe fydd yn tanseilio’r Gymraeg yn ogystal â’r amgylchedd. Os
caniateir i'r datblygiad fynd yn ei flaen, golyga hynny adeiladu mewn ardal o
harddwch naturiol arbennig, heb sôn am ddinistrio'r hyn sydd yn gwneud Cymru yn
arbennig yn y lle cyntaf.”

“Rydym fel mudiad wedi datgan ein pryderon am ddatblygiad anghynaladwy cwmni
Land & Lakes yn ystod cyfnod ymgynghorol y cais cynllunio, ac yn y wasg yn
lleol. Oherwydd ein bod yn credu y byddai datblygiad o'r fath yn sicr o fod yn
niweidiol i sefyllfa fregus y Gymraeg yn y sir. Mae angen datblygu economi Ynys
Môn, ond hynny mewn ffordd sensitif a chynaliadwy, sydd ddim yn niweidio'r hyn
sydd yn gwneud ein gwlad yn arbennig.”

Ychwanegodd: “Mae angen meddwl tu allan i'r bocs er mwyn creu economi lewyrchus
i Gymru, a pheidio â dibynnu o hyd ac o hyd ar gwmnïau mawr o du allan i'n
gwlad. Mae potensial anferthol yn y gogledd orllewin i greu cyfleoedd sydd yn
gynaliadwy ac sydd yn ateb gofynion y trigolion sydd yn byw yn y cymunedau
hynny.”