Taith Gerdded S4C - Neges i'r BBC o Garreg Goffa Gwynfor

garn-goch-taith2-s4c.jpgBu criw o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn cario neges o Garreg Goffa Gwynfor ger Bethlehem i stiwdio'r BBC yng Nghaerfyrddin heddiw (Dydd Llun, Ebrill 18), i dynnu sylw at yr argyfwng difrifol sy'n wynebu S4C, ac i rybuddio'r BBC i beidio a chydweithio â'r llywodraeth i danseilio'r sianel y brwydrodd Gwynfor drosti.Cafwyd Taith Gerdded o'r Garn Goch i Landeilo cyn i rai o'r criw redeg y 14milltir o Landeilo i Gaerfyrddin. Cynhaliwyd cyfarfod byr ger Carreg Goffa Gwynfor ar y Garn Goch gyda Rhodri Glyn Thomas (ymgeisydd Cynulliad yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn annerch y dorf a'r Parch Guto Prys ap Gwynfor (un o feibion Gwynfor Evans) fu'n atgoffa'r dorf o frwydr Gwynfor dros sefydlu ein sianel Gymraeg.garn-goch-taith-s4c.jpgMeddai Sioned Elin, cadeirydd Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Roedd y rhedwyr yn symboleiddio'r angen i frysio er mwyn achub y sianel cyn y bydd hi'n rhy hwyr. Trwy geisio parhau gyda'r toriadau hyn, mae'r Llywodraeth a'r BBC yn anwybyddu llais unedig pobl Cymru. Mae angen i bob un ohonom weithredu ar frys. Mae dyfodol ein hunig sianel deledu Cymraeg yn y fantol, sydd yn fygythiad uniongyrchol i'r iaith. Mae S4C yn wynebu toriadau enfawr a chael ei thraflyncu gan y BBC. Mae'r llywodraeth yn trio arbed naw deg pedwar y cant o'r arian roedden nhw'n arfer talu i'r sianel, toriad sydd yn gwbl annheg. Ar ôl 2015, does dim sicrwydd y bydd unrhyw arian yn mynd i'r sianel o gwbl."Rhedodd y criw i stiwdios y BBC yng Nghaerfyrddin yn ystod rhaglenni newyddion yr hwyr, gyda neges glir i'r BBC - "peidiwch a chydweithio gyda'r Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain i danseilio'r sianel y brwydrodd Gwynfor drosti".Ychwanegodd Sioned Elin:"Mae'r ymgyrch yn bwysig i bobl yma a dim ond un digwyddiad ymhlith nifer a fu ac sydd i ddod yw hyn. Gallaf i ond argymell fod pobl yn ymuno gyda ni yn ein hymgyrch."