Taro 40 busnes mawr yn Aberystwyth!

Neithiwr (nos Fercher 06/10/04), yn nhref Aberystwyth, targedodd bron hanner cant o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros 40 o gwmniau preifat – (banciau, archfarchnadoedd, arwerthwyr tai, siopau cadwyn ayb) – gan orchuddio eu ffenestri a sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae’r Gymraeg?’

Ymhlith y cwmniau a gawsant eu targedu yr oedd Woolworths, Burger King, Wetherspoons, Spar, Halifax, Abbey a llawer mwy. Mae'r neges "Ble mae'r Gymraeg" i'w gweld yn awr ym mhob rhan o'r dref.Gwnaed hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad yw’r Ddeddf Iaith bresennol yn cyffwrdd â’r sector breifat ac felly yn rhydd i gynnig y mwyafrif o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Mae Senedd Cymdeithas yr Iaith yn cymryd cyfrifoldeb am y weithred.Meddai Rhys Llwyd, Cadeirydd ymgyrch Deddf Iaith Newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:“Penderfynodd Cymdeithas yr Iaith i gychwyn ar gyfnod o ymgyrchu gweithredol er mwyn ail-godi yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Dro ar ôl tro, fe welir fod cwmniau a sefydliadau yn parhau i wrthod cynnig y mwyafrif o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg. Ni fydd hyn yn newid hyd nes ceir Deddf Iaith Newydd.”Rhwng nawr a'r Nadolig, bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynd ati yn gyson i dargedu llu o gwmniau, mewn trefi trwy Gymru gyfan, er mwyn pwysleisio gwendidau sylfaenol Deddf Iaith 1993.Ychwanegodd Rhys Llwyd:“Bellach, mae dros ddegawd ers pasio’r Ddeddf Iaith bresennol. O ganlyniad, mae nawr yn adeg briodol i ddechrau ystyried yr angen i ddiwygio a chryfhau’r ddedfwriaeth. Yn wir, o ystyried y modd y mae preifateiddo, ynghyd â’r twf yn nylanwad technoleg, yn trawsneid y modd y caiff gwasanaethau eu cynnig, mae angen brys i wneud hyn. Os na fyddwn yn wynbeu’r her, bydd siaradwyr Cymraeg yn colli cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywydau bob dydd.Ychwanegodd Hedd Gwynfor, Is-gadeirydd Cyfathrebu'r Gymdeithas:"Trwy ein gweithred heno, yn dilyn gweithredu tebyg yn Y Fflint a Chaernarfon dros yr wythnosau diwethaf, cyhoeddwn fod cyfnod yr hen Ddeddf Iaith wedi dod i ben. Mae Cymru wedi newid yn llwyr ers pasio'r hen Ddeddf ym 1993, ac y mae Deddf Iaith Newydd yn ol mewn difri ar yr agenda gwleidyddol. Gallwn gyhoeddi ein bod yn cychwyn ar bedwar mis o ymgynghori tu fewn a thu allan i'r Gymdeithas ar gynnwys Deddf Iaith newydd, a byddwn yn croesawu ymateb o bob cwr.""Yn benllanw i'r ymgyrch newydd hon, byddwn yn cynnal Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a gynhelir yn yr Hen Goleg, Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn Mawrth 12fed 2005. Ein nod yw darbwyllo Bwrdd yr Iaith i argymell fod y Cynulliad yn mynnu deddf newydd o'r fath gan San Steffan. Y mae Hywel Williams A.S. wedi cytuno i annerch y fforwm, ac y mae Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith - Meirion Prys Jones - wedi cytuno i ymateb. Wrth fod y bore'n gwawrio yn Aberystwyth a'r galwad i'w weld ym mhob man am ddefnydd llawn o'r Gymraeg, felly hefyd y mae cyfnod newydd wedi gwawrio yn y frwydr dros yr iaith"Byddwn yn cyhoeddi rhagor am yr ymgyrch newydd yma yn ystod yr wythnosau nesaf.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori ar wefan BBC WalesStori oddi ar wefan y Daily PostMwy oddi ar wefan EurolangLluniau o'r ymgyrch sticeri yn Aberystwyth, ar gael yma!