Tecstio dros S4C newydd, rali Cymdeithas

protest-s4c.JPG

Mae'n amser i'r gwleidyddion ddelifro S4C newydd, dyna oedd neges rali ar faes yr Eisteddfod heddiw (2pm, Awst 4ydd).

Ers i'r Llywodraeth gyhoeddi cynlluniau i gwtogi ar eu grant i'r unig sianel deledu Gymraeg o naw deg pedwar y cant, mae degau o fudiadau, arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymr a'r Archesgob Cymru Barry Morgan wedi datgan eu gwrthwynebiad. Beirniadwyd cyd-cynllun y BBC a'r Llywodraeth gan y Pwyllgor Materion Cymreig a'r Pwyllgor Diwylliant yn San Steffan, ac ym mis Mawrth eleni, cyflwynodd ymgyrchwyr ddeiseb a lofnodwyd gan 13,000 o bobl yn erbyn y cwtogiadau.

Yn annerch y dorf yn y rali yr oedd Llywydd Plaid Cymru Jill Evans, AS Llafur Susan Elan Jones a Meic Birtwistle o Undeb y Newyddiadurwyr. Yn ystod y rali, fannogodd siaradwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y protestwyr i decstio yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt yn gofyn iddo dynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus.Yna fe orymdeithiodd y protestwyr draw at stondin Llywodraeth Cymru i ddadlau dros ddatganoli darlledu i Gymru.

Meddai Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae grym pobl yn ymgyrchu wedi golygu fod yr ymgyrch hon wedi symud agenda Llywodraeth San Steffan i ddiddymu S4C i'n sefyllfa bresennol sef nesáu at dadwneud ei chynlluniau'n llwyr. Mae pawb yng Nghymru eisiau gweld gwireddu S4C newydd, dim mwy o'r hen gelwydd oddi wrth y Torïaid na neb arall sy'n mynnu fod llai na hynny'n dderbyniol. Yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, rydym am alw ar wleidyddion i 'wneud nid dweud' a phleidleisio i dynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus."

"Mae llais unedig pobl Cymru wedi dweud eu bod nhw yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth, ac mae'n bryd i Lywodraeth Cymru gynnig arweiniad ar y pwnc hynod bwysig hwn a mynnu fod y cyfryngau yn cael eu datganoli i Gymru. Rhaid i'r BBC yn Llundain sylweddoli bod eu bwriadau i dorri gwasanaethau yn mynd i grebachu'r cyfryngau yng Nghymru ac mae angen i S4C fod yn barod i wrando a diwygio os yw am adennill hyder pobl yn ogystal â chamu ymlaen i'r oes ddigidol."

Yn siarad yn y rali, fe ddywedodd Llywydd Plaid Cymru Jill Evans yn dweud:

"Fe fydd y rali heddiw yn gyfle i bobl leisio eu hanfodlonrwydd yngl?n â'r hyn sydd yn digwydd i S4C. Mae'n hollbwysig bod y llywodraeth yn San Steffan yn deall bod eu gweithredoedd wedi gwylltio cymaint o bobl. Mae'r frwydr dros ein sianel yn parhau, yn cynnwys ar lefel Ewropeaidd. Mae gan y bygythiad i S4C effaith tu hwnt i Gymru. Mae pobl mewn gwledydd eraill sydd yn brwydro dros hawliau ieithoedd lleiafrifol yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y sianel i'r Gymraeg ac i statws ein hieithoedd i gyd."

Yn dilyn y rali am 8pm, fe fydd gig gwrth-doriadau yn yr Orsaf Ganolog (Central Station) yng nghanol tref Wrecsam sydd wedi ei noddi gan nifer o undebau llafur gyda pherfformiadau gan Mr Huw, Twmffat, Llwybr Llaethog, Crash.Disco! Dau Cefn a Llyr PSI. cymdeithas.org/steddfod