Teyrnged i'r Tywysog William a'i deulu yn y Steddfod Frenhinol

hywelffiaidd1.jpgMae Cymdeithas yr Iaith yn falch o gyhoeddi y bydd yn trefnu Noson o Deyrnged - ar ffurf Comedi a Cherddoriaeth - i'r Teulu Brenhinol ac i bawb sy'n ein llywodraethu o Lundain yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol. Cynhelir y gig ar Nos Lun y 1af o Awst yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam a bydd y Digrifwyr Huw Marshall, Elidir Jones a Dilwyn Morgan yn cynnal dwy awr o Gomedi ar y pryd a Dychan Gwleidyddol. Gellir prynu tocynnau arlein ar cymdeithas.org/steddfodFel uchafbwynt i'r noson, bydd set gerddorol gan Dr Hywel Ffiaidd - y cymeriad pync-theatrig sydd wedi'i atgyfodi gan y canwr-actor lleol Dyfed Tomos o Rhos wedi chwarter canrif yn yr arch. Dyma'r tro cyntaf iddo berfformio'n lleol ers sefydlu'r cymeriad pync-roc pan oedd y Steddfod yn Wrecsam y tro diwethaf yn 1977. Y flwyddyn honno oedd Jiwbili Arian y Frenhines Elizabeth a bu geni Dr Hywel Ffiaidd a'i gariad Blodwen Chwd fel rhan o sioe gerdd "Croeso i'r Roial".Bum mlynedd yn ddiweddarach, canodd Dr Hywel Ffiaidd gân arbennig i'r Tywysog Charles ar adeg ei briodas. Eleni, bydd yn canu cân newydd i'r mab William ar adeg ei briodas yntau. Yn briodol iawn, bydd plant Dyfed a'u ffrindiau (sy'n galw eu hunain yn "Plant Ffiaidd") hefyd yn cymryd rhan yn y gig. Mae Dyfed Tomos yn esbonio"Mi fydd 'Plant Ffiaidd' yn agor gyda thair cân yn eu steil cyfoes nhw, cyn i 'Mad Ed' a Dafydd Pierce (aelodau gwreiddiol o'r band DR HYWEL FFIAIDD) ymuno. Wedyn mi fydd y Dr yn ymddangos i glindarach 'Gwinllan a roddwyd i'm gofal' yn gefndir i'r gan 'Edifeirwch'! Mae'r set yn gymysgedd o ganeuon gwleidyddol fel 'Gwneud Dim' a chaneuon newydd sy'n cyfeirio at gymeriadau hoffus fel Thatcher a Blair yn ogystal a Will a Kate a llawer o rai eraill!"

Dywed Nia Lloyd ar ran Pwyllgor Trefnu Lleol y Gymdeithas:"Mae'n grêt fod Dr Hywel Ffiaidd yn ei ol gyda'r Steddfod yn ol yn yr ardal, a'r cyfle i dalu teyrnged i Dywysog arall gan y genhedlaeth ffiaidd newydd. Gobeithio y bydd y gig yn deyrnged yr un mor deilwng i William ar ei briodas ac i'w Nain ar ei Jiwbili Aur y flwyddyn nesaf fel yr oedd y perfformiad gwreiddiol yn deyrnged deilwng i'w Jiwbili Arian. Mawr obeithiwn y bydd y Steddfod yn ol yn Wrecsam eto ar adeg Jiwbili 100 y Frenhines ac y bydd yr Wyrion Ffiaidd ar gael i dalu teyrnged iddi ! Bydd Dyfed yn chware cwpwl o gigs yn y Steddfod, ond ar y noson hon fe gaiff rwydd hynt i fynegi'n ddilyffethair ei deimladau teyrngar tuag at William, y Teulu Brenhinol a phawb sy'n ein rheoli. Bydd Tren y Chwyldro yn wir godi stêm yn yr Orsaf Ganolog."Crewyd y Cymeriad Dr Hywel Ffiaidd gan Dyfed Tomos o Rhosllanerchrugog ar gyfer y cyflwyniad yn y sioe-gerdd "Croeso i'r Roial" y tro diwethaf yr oedd y Steddfod yn Wrecsam yn 1977 - blwyddyn Jiwbili Arian y Frenhines. Cofiwyd yn hir y deuawd gan y Pâr Pync Hywel a Blodwen "Yfi di Hywel Ffiaidd, A fi di Blodwen Chwd, Dy ni yma i brotestio, So gleua'i oma'r cwd!"Bu'r Dr Hywel Ffiaidd wedyn yn cynnal gigs am 5 mlynedd ledled Cymru, ac yn 1978, bu'n rhaid gohirio un rhifyn o'r rhaglen bop 'Twndish; ar y teledu oherwydd 'iaith anweddus' gan Hywel Ffiaidd.Mae'r gig yn rhan o wythnos gyflawn o gigs gwleidyddol gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod yr Eisteddfod ym mhrif glwb cerddoriaeth y gogledd - GORSAF GANOLOG WRECSAM - yn dwyn y teitl 'Tren y Chwyldro.' Mae'r gig hwn yn cynnwys comedi a set Hywel Ffiaidd ar nos Lun 1af o Awst ac mae tocynnau ar gael am £8 arlein o cymdeithas.org/steddfod neu o Gaffi Yales Wrecsam, Awen Meirion Y Bala, Elfair Rhuthun ac o swyddfa Cymdeithas yr Iaith - 01970 624501(Llun clawr caset o babylonwales.blogspot.com )Manylion llawn y gigs yma - cymdeithas.org/steddfod