Fe aeth aelodau ifanc o Gymdeithas yr Iaith a'r ymgyrch i achub S4C i strydoedd Caerfyrddin heddiw mewn modd theatrig. Bu rhai yn gwisgo fel "CYW" - y cyw iâr hoffus sy'n symbol o raglenni plant S4C - ac fel cymeriadau cartwn eraill teledu Cymru, tra bod eraill yn eu hela drwy strydoedd y dref wedi gwisgo fel Torïaid megis Jeremy Hunt, y Gweinidog Diwylliant Seisnig.Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:"Roedd hyn yn ffordd ddramatig o bortreadu sut y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn benderfynol o dagu " CYW "ac S4C gan dorri yn sylweddol y cyllid a'u droi yn is-adran o'r BBC"Roedd y digwyddiad yma yn rhan o ymgyrch genedlaethol gan Gymdeithas yr Iaith sydd yn honni fod y Llywodraeth a'r BBC yn cydweithio ar gynllun a fyddai'n cael gwared ar S4C, ac yn dilyn cyfnod hir o ymgyrchu a lobio gan Gymdeithas yr Iaith gan gynnwys Rali fawr yng Nghaerdydd gyda dros 2,000 yn mynychu cyn y Nadolig, degau o gyfarfodydd wedi eu trefnu ar hyd a lled Cymru, miloedd ar filoedd o enwau wedi eu casglu ar ddeiseb yn gwrthwynebu Toriadau S4C, a llythyrau di-ri wedi eu hanfon at Aelodau Seneddol Cymreig yn eu hannog i sicrhau dyfodol llewyrchus i S4C.
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r Llywodraeth wedi anwybyddu galwad gan arweinydd pob plaid yng Nghymru i'r Llywodraeth atal y cynlluniau presennol ar gyfer S4C, a fyddai'n rhoi S4C dan y BBC ac yn torri dros 40% o'i chyllid.""Nid yw Llywodraeth Prydain wedi ystyried barn pobl Gymru yn eu cynlluniau ar gyfer S4C o gwbl yn y broses hon sydd yn hollol sarhaus. Rydym am bwyso ar Lywodraeth Prydain i wrando ar alwad ein pleidiau gwleidyddol er mwyn gallu gwneud penderfyniad synhwyrol ar ddyfodol y sianel.""Sefydlwyd y sianel yn dilyn brwydr hir gan bobl Cymru a nawr mae'r Llywodraeth glymblaid a'r BBC yn tanseilio hyn oll. Nid yn unig hynny ond maent yn anwybyddu pobl Cymru."Mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni y byddai S4C yn colli'i hannibyniaeth dan y cynllun presennol ac na fydd yn ddim mwy nag adran arall o'r BBC.Ychwanegodd Bethan Williams:"Mae'n hymgyrch yn mynd o nerth i nerth a byddwn yn parhau nes i ni gael sicrwydd o annibyniaeth S4C a chyllid digonol mewn statud i alluogi hynny."