Tocynau Wythnos Gigs Steddfod Ar Werth Rwan!

gigs_steddfod_logo-bach.jpg Mae nifer cyfyngedig o docynau wythnos ar gyfer Gigs Steddfod Genedlaethol Eryri Cymdeithas yr Iaith rwan ar werth o wefan y Gymdeithas - www.cymdeithas.com/steddfod

Mae’r tocyn yn rhoi mynediad i ddewis o 13 gig a dros 60 o fandiau ac artistiaid cerddorol gorau Cymru yn cynnwys Anweledig, Meic Stevens a Gruff Rhys! Bydd modd defnyddio'r tocyn wythnos i fynychu unrhyw un o gigs y Gymdeithas yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, o'r Sadwrn cyntaf i'r Sadwrn olaf, yn Cofi Roc Caernarfon neu Glwb Nos Amser Bangor.Yn ogystal a gwarantu mynediad i bob gig, mae’r pris o £44 yn golygu arbediad o £10 o’i gymharu a phrynu pob tocyn yn unigol – bargen ym mhob ystyr y gair! Dim ond nifer cyfyngiedig sydd ar gael a’r cyntaf i’r felin gaiff falu. Bydd tocynau unigol i holl Gigs Steddfod y Gymdeithas yn mynd ar werth yn fuan, ond os am sicrhau eich lle i weld eich hoff artistiaid yna prynwch docyn wythnos drwy’r wefan rwan - www.cymdeithas.com/steddfod