Torfaen: Cefnogi ymchwiliad y Comisiynydd, ond angen gwneud mwy

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i benderfyniad Comisiynydd y Gymraeg i ymchwilio i bolisi iaith Cyngor Torfaen ar ôl i’r Cyngor lansio llinell ffôn uniaith Saesneg ddiwedd mis Mehefin.

Fis diwethaf galwodd Cymdeithas yr Iaith ar Gomisiynydd y Gymraeg i ddefnyddio’i phwerau statudol i gynnal ymchwiliad i fethiannau’r Cyngor.

Casglodd Cymdeithas yr Iaith ddeg o gwynion gwahanol am y Cyngor yn Nhorfaen a mynd â nhw at y Comisiynydd nol ym mis Gorffennaf. Yn bennaf ymysg y cwynion oedd nad oedd gwefan y cyngor ar gael yn Gymraeg.

Dywed Branwen Brian, Ysgrifennydd Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Cymdeithas yr Iaith; “Ryn ni’n falch o weld bod Cyngor Torfaen wedi lansio’i gwefan yn ddwyieithog erbyn hyn ar ôl holl ymdrechion aelodau lleol i sicrhau hynny, a bod y Comisiynydd wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i fewn i fethiant y Cyngor i ddarparu llinell ffôn ddwyieithog. Ond mae yno sawl agwedd arall o’r Cyngor lle mae’r Gymraeg yn cael ei esgeuluso lle byddai’r Comisiynydd yn gallu cynnal ymchwiliad.

"Mae wedi cymryd misoedd o gwyno a chael cyfarfodydd er mwyn cael y Comisiynydd i ddefnyddio’i phwerau o gwbl. Ymddengys fel bod y Comisiynydd wedi penderfynu mynd ar ôl y mater symlaf yn hytrach na cynnal ymchwiliad llawn i mewn i fethiannau’r Cyngor.

"Ryn ni’n falch o weld bod agwedd y Cyngor yn newid yn raddol ac edrychwn ymlaen at weld hyn yn digwydd gydag awdurdodau lleol heb orfod bygwth galw am ymchwiliad gan y Comisiynydd.”