Mae mudiad iaith wedi ymateb i drafodaeth cynghorwyr Gwynedd am y toriadau arfaethedig i ganolfannau trochi iaith y sir.
Meddai Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni’n gynyddol obeithiol y gwnaiff cabinet y cyngor newid ei feddwl cyn gwneud penderfyniad terfynol fis nesaf. Mae'n glir nad oes cefnogaeth i'r toriadau yn dilyn y pleidleisiau heddiw. Mae’r canolfannau yn newid bywydau pobl ac yn cael effaith bositif eithriadol ar yr iaith, a hynny yn yr hirdymor. Mae yna bobl sydd wedi dysgu’r iaith yn y canolfannau yma ac aros yn yr ardal fel oedolion sy’n siaradwyr hyderus sy’n trosglwyddo’r iaith i’r genhedlaeth nesaf. Y canolfannau yma ydy un o’r prif lwyddiannau sydd wedi bod o ran cynnwys hwyrddyfodiaid - gan gadw ysgolion yn Gymraeg a rhoi chwarae teg a mynediad llawn at fywyd y cymunedau i'r bobl ifanc sy’n symud i’r ardal.”