Bydd aelodau o Gymdeithas yr iaith Gymraeg yn cynnal cyfarfod gyda swyddogion yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw am 12.30 i drafod Deddf Iaith a dyfodol Ysgolion Pentrefol. Cafwyd cadarnhad y bydd y cyfarfodydd yn mynd rhagddynt er na bydd gweinidogion yn bresennol. Dros y pedair blynedd ddiwethaf nid oedd modd trafod Deddf iaith gyda llywodraeth y Cynulliad ond yn awr mae'n amlwg fod y pwnc yn ol ar yr agenda gwleidyddol.
Yn y cyfarfod heddiw fe fydd Hywel Griffiths (Cadeirydd y Gymdeithas) Rhun Emlyn (arweinydd yr ymgyrch Deddf iaith), Ffred Ffransis ac Aled Davies (O'r Grwp Addysg) a Matt Dix - Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Mynyddcerrig a gaeir yfory.Mae Mr Matt Dix yn ddi-Gymraeg ond y mae ei blant yn rhugl yn yr iaith ac yn ei defnyddio'n naturiol wedi derbyn addysg dda yn yr ysgol bentre. Meddai Ffred Ffransis"Yr ydym wedi gwahodd Mr Dix i ddod gyda ni fel bod y swyddogion addysg yn derbyn tystiolaeth bersonol o werth ysgolion pentre yn addysgol ac o ran sicrhau cytgord cymunedol ac faint yw'r golled ar eu hol. Bu Llywodraeth y Cynulliad ac Awdurdodau Lleol yn pasio'r gyfrifoldeb ol a mlaen am y ddinistr a wyneba ysgolion pentrefol Cymraeg. Byddwn yn atgoffa'r swyddogion o gyfrifoldeb Llywodraeth y Cynulliad.""Nhw sy'n gosod y canllawiau ar gyfer cau ysgolion - canllawiau nad sydd byth yn cael eu gweithredu o ran asesu effaith cau ysgol ar yr iaith a'r gymuned leol a chwilio pob opsiwn arall. Nhw hefyd sydd wedi bygwth Awdurdodau Lleol na chan nhw ddim cyllid tuag at Welliannau Adeiladau Ysgol o 2010 ymlaen oni bai fod ganddynt gynlluniau 'rhesymoli'. Nhw hefyd sy'n gwneud yr holl gysyniad o wneud defnydd cymunedol o adeiladau ysgolion yn anhyfyw trwy fod gwahanol gronfeydd, polisiau ac adrannau i reoli addysg a datblygu cymunedol."