Mae rhai o’r cynghorau mwyaf yng Nghymru - gan gynnwys Caerdydd, Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin - yn colli allan ar filiynau o bunnau'r flwyddyn drwy beidio â defnyddio pwerau i godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi.
Ers newid i’r gyfraith yn 2014, mae cynghorau wedi bod â’r grym i godi treth cyngor uwch - hyd at 100% yn fwy - ar eiddo gwag ac ail gartrefi. Mae ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith yn dangos bod naw cyngor sir wedi penderfynu defnyddio’r pwerau, gan godi dros £20 miliwn ers 2017 o ganlyniad. Cyngor Sir Benfro yw’r awdurdod lleol sydd wedi elwa fwyaf o’r polisi gan ennill £5.8 miliwn dros gyfnod o dair blynedd. Mae cynghorau Powys ac Ynys Môn wedi casglu dros £4 miliwn yn ychwanegol yr un, gyda Chyngor Gwynedd yn derbyn £2.2 miliwn yn fwy mewn un flwyddyn yn unig a Sir y Fflint dros £1.3 miliwn.
[cliciwch yma i weld yr ystadegau llawn]
Dywedodd wyth cyngor nad ydyn nhw wedi defnyddio’r pwerau o gwbl - Sir Gaerfyrddin, Bro Morgannwg, Caerffili, Penybont, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Casnewydd a Chastell-nedd Port Talbot. Dechreuodd Cyngor Caerdydd godi treth cyngor uwch ar eiddo gwag eleni ond nid ar ail gartrefi. Chafodd y mudiad iaith ddim ateb gan bedwar cyngor sir i’w hymholiadau.
Mewn ymateb i’r newyddion, dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’n dipyn o syndod bod cynifer o gynghorau heb ddefnyddio’r pwerau hyn o gwbl. Mae rhai ohonynt wedi colli allan ar filiynau o bunnau achos nad yw wedi eu defnyddio hyd yn hyn - miliynau y gallai fod wedi eu buddsoddi mewn tai cyngor neu ysgolion. Ymgyrchodd y Gymdeithas dros y polisi fel un ffordd o daclo’r broblem o ail gartrefi, sy’n ddifrifol o ran cynaliadwyedd cymunedau, gwasanaethau a’r Gymraeg. Ond hefyd, mae’r dreth gyngor uwch yn ffordd o sicrhau bod mwy o adnoddau ar gael i fuddsoddi mewn cymunedau a gwasanaethau lleol.
“Mae’n galonogol gweld bod nifer o gynghorau wedi elwa o ymgyrch y Gymdeithas i sicrhau’r pwerau trethu. Rydyn ni’n ymwybodol bod yr arian ychwanegol yng Ngwynedd wedi ei fuddsoddi mewn tai i bobl ifanc leol - ac mae hynny i’w ganmol. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried rhagor o ffyrdd i daclo’r problemau - er enghraifft, dylen nhw edrych at enghreifftiau yng Nghernyw o’r cyfyngiadau sydd wedi eu gosod ar y canran o dai mewn cymuned sy’n cael bod yn ail gartrefi. Mae ail gartrefi yn rhan o broblem ehangach am sut mae tai yn cael eu hystyried. Yn hytrach na meddwl am dai fel asedau ar gyfer hapfasnachu, mae angen eu hystyried fel hawl dynol sylfaenol i gartref.
“Wrth edrych ymlaen, dylid datganoli ragor o bwerau trethi i gynghorau lleol; rydyn ni’n ymgyrchu dros alluogi cynghorau i godi treth ar dwristiaeth. Mewn nifer o ardaloedd mae angen cydnabod bod cost i dwristiaeth sy’n effeithio ar y gymuned, mae ond yn iawn felly bod gan bobl leol y cyfle i ennill adnoddau ychwanegol er mwyn buddsoddi’n lleol. Mae trethi ar dwristiaeth yn gyffredin iawn ledled y byd.”