Trin rhieni a chymunedau gyda dirmyg

cyngor_sir_caerfyrddin.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r dull haerllug ac ansensitif y mae Cyngor Sir Gar wedi trin rhieni a chymunedau lleol lle y bygythiwyd cau eu hysgolion. Dywedodd y Gymdeithas fod polisi "Moderneiddio" addysg y sir yn llanast llwyr a galwasant ar bleidleiswyr i ddal y Cyngor yn atebol yn yr etholiadau lleol sydd ar y gorwel.

Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:"Yn ôl strategaeth y Cyngor, roedd nifer o ysgolion i fod eisoes wedi mynd drwy'r broses ymgynghori i benderfynu ar ei dyfodol. Enwyd un ysgol ar gyfer ymgynghori ym mis Mai y llynedd gan y cCngor, ond nid ydynt wedi llwyddo i ystyried yr ysgol honno eto. ""Mae'n amlwg fod y Cyngor wedi eu synnu gan nerth y gwrthwynebiad i'w cynlluniau i gau nifer fawr o ysgolion ac heb allu barhau gyda'u hamserlen. Eu strategaeth nawr yw ceisio digalonni cymunedau pentrefol drwy greu awyrgylch o ansicrwydd yn y gobaith y bydd rhieni yn symud eu plant o'r ysgolion dan fygythiad. Yna byddant yn disgyn fel fwltiriaid i gau yr ysgolion hynny.""Mae'r polisi 'Moderneiddio' honedig felly yn llanast llwyr. Daeth yn amlwg na ellir talu am yr adeiladau newydd drud sy'n angenrheidiol gyda'r swm pitw o arian a ddaw o gau yr ysgolion pentrefol a dinistrio cymunedau Cymraeg. Bydd gan etholwyr Sir Gaerfyrddin y cyfle mewn ychydig wythnosau i alw'r Cyngor i gyfrif."Adroddiad Blynyddol Rhaglen Moderneiddio yma.