Twyll ymgynghori - Cyngor sinigaidd yn cau ysgol

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cysylltu gydag athrawon a Ysgol Gynradd bentrefol Mynyddcerrig heddiw i ddatgan y bydd yr ysgol yn cau am y tro olaf ar ddiwedd tymor yr Haf eleni.

Dywedodd Angharad Clwyd, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n amlwg fod y broses tuag at gau wedi cael ei gyflymu gan Jane Davidson oherwydd iddi ddanfon yr hysbysiad at y Cyngor cyn hyd yn oed ateb gwrthwynebiadau y rhieni a’r llywodraethwyr. Daeth yr hysbysiad ar y diwrnod olaf posibl i’w galluogi i gau yr ysgol ar ddiwedd tymor yr haf. Mae’n amlwg hefyd yn gyfleus i Gyngor Caerfyrddin i’r datganiad gael ei wneud ar ddiwrnod ola’r tymor pryd nad oedd plant yn yr ysgol er mwyn atal unrhyw brotestio posibl gan rieni a llywodraethwyr. Bydd y penderfyniad yma yn tynnu'r galon allan o gymuned Mynyddcerrig."Bydd y Cyngor yn danfon llythyrau at yr holl rieni ac at bawb sydd wedi gwrthwynebu cyn diwedd y dydd, i'w cyrraedd yn ystod gwyliau'r Pasg. Ychwanegodd Ms Clwyd:"Nid yw Jane Davidson wedi caniatáu unrhyw apêl o blaid ysgol bentrefol sydd dan fygythiad. Ffars yw'r broses yma a ffars oedd yr ymgynghori. Mae'n amlwg i bawb bellach fod y penderfyniad i gau'r ysgol wedi ei wneud ers misoedd.""Does dim ffydd gan bobl Sir Gâr bellach yn Jane Davidson na chwaith yng nghabinet Llafur ac Annibynnol y Cyngor Sir. Gofynnwn felly ar bobl Sir Gâr i bleidleisio yn erbyn y Blaid Lafur yn Etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai, gan nad ydynt yn gwrando ar farn y bobl, ac yn tanseilio ein cymunedau drwy eu polisïau Llafur Newydd.""Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn datgan ein gwrthwynebiad yn glir ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerfyrddin ym mis Mai."