“We never have played Welsh music and we never will!”

radio_carmarthenshire.JPG Fe feddianodd tua 20 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg stiwdio Radio Carmarthenshire yn Arberth y bore yma, a thorri ar draws darllediad byw. Roedd modd clywed gwaeddiadau o 'Ble Mae'r Gymraeg?' yn fyw ar y Radio. Roedd yn rhaid i Radio Carmarthenshire atal y darllediad am bron i funud ac nid oedd modd iddynt ddarlledu bwletin newyddion 12pm. Roedd rhaid i gyflwynwyr gloi eu hunain mewn stiwdio sbar i barhau a'r darllediad wedi'r saib.

Cafodd 11 o'r protestwyr eu harestio. Heledd ap Gwynfor, Heledd Gwyndaf, Gwenno Teifi, Steffan Cravos, Aled Vaughan, Llinos Dafydd, Rhiannon Lewis, Betsan Jones, Menna Machreth, Angarad Blythe a Catrin Howells.Meddianwyd pencadlys Radio Carmarthenshire yn Arberth Sir Benfro i wrando ar swn y DJ Cymraeg MCSleifar (Steffan Cravos - sy'n wreiddol o Gaerfyrddin ond yn awr yn DJ Radio ym Mhontypridd i GTFM), ar waethaf ymffrost y Prif Weithredwr , Keri Jones, nad oedd Radio Sir Carmarthenshire “erioed wedi chwarae gerddoriaeth Gymraeg ac na fyddai byth yn gwneud hynny.”Mae’r weithred hon yn gychwyn ymgyrch benderfynol gan Gymdeithas yr Iaith i bwyso ar OFFCOM i ddiddymu trwydded Radio Carmarthenshire gan nad yw’n orsaf leol nac yn cyflawni ei chyfrifoldeb at yr iaith na’r gymuned leol.Yn ystod mis cyntaf darlledu’r orsaf newydd yr ydym wedi darganfod fod ei chynnyrch Gymraeg yn gyfyngedig i :* Rhaglen nosweithiol honedig Gymraeg o 7pm i 10pm sy’n darlledu cerddoriaeth Saesneg yn unig trwy orchymyn y cwmni* Hysbysebion cerddorol dwyieithog ar gyfer yr orsaf ei hun* Ugain eiliad o Gymraeg ar ddiwedd bwletinau newyddion* Mentr nawddoglyd “Welsh word of the day” mewn sir lle mae dros hanner y boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.Dyw hon ddim chwaith yn orsaf leol yn gwasanaethu Sir Gaerfyrddin. Er ei bod yn ceisio cuddio’r ffaith trwy ddefnyddio cyfeiriad post yn Llanelli, mae’r holl ddarlledu mewn gwirionedd o stiwdio Radio Pembrokeshire yn Arberth. Does dim unrhyw ddarlledu Cymraeg yn fyw ac fell nid oes unrhyw bosibiliad i siaradwyr Cymraeg gymryd rhan mewn rhaglenni.O gael ei herio gyda’r ffeithiau hyn, dywedodd Keri Jones (Pri Swyddog Gweithredol Radio Carmarthenshire) wrth Aled Vaughan o Gymdeithas yr Iaith* “Efallai fod 50% o bobl Sir Gar yn siarad Cymraeg ond mae 100% yn siarad Saesneg”* “Dyn ni ddim yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg a byddwn ni fyth yn gwneud"* “Wnawn ni ddim cefnogi bandiau Cymraeg lleol onibai eu bod nhw’n cael cytundeb gan gwmni fel Sony ac yn cyrraedd y siartiau Prydeinig”.Gwnaeth e hefyd fygwth cwtogi awr ar y rhaglen nosweithiol “Gymraeg” os bydd Cymdeithas yr Iaith yn parhau i gwyno. Ei ymateb anhygoel i Lowri Gwenllian trwy e-bost oedd yn Saesneg: “Ymddengys nad yw Radio Carmarthenshire wrth eich bodd yn bersonol. Allwn ni ddim plesio pawb, cerwch yn ôl at Radio Cymru.”Gall e fod yn sicr y byddwn ni’n dychwelyd at Arberth i barhau gyda’r ymgyrch hon.Western Telegraph 29/07/04Teifi Seid 28/07/04Western Mail 26/07/04Western Mail 27/07/04Western Mail 30/07/04Western Mail 11/08/04Stori BBC Cymru'r BydErthygl ar EurolangLlythr gan John Eckersley yn y Carmarthen JournalLlythr gan Mabon ap Gwynfor yn y Carmarthen JournalLlythr gan Llinos Dafydd yn y Carmarthen JournalLlythr gan Iwan Evans yn y Carmarthen JournalLlythr gan Gwyn Jones yn y Western MailPwyswch yma i weld y lluniau a Toriadau papurau newydd o'r digwyddiad