"Ydy'n gwahoddiad ni ar goll yn y post" - Cwestiwn Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Sir Caerfyrddin

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon neges at Gyngor Sir Caerfyrddin i holi am y Fforwm Iaith arfaethedig a oedd i'w sefydlu y mis hwn yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gan nad yw'r Gymdeithas wedi clywed unrhyw beth am y fforwm gan y Cyngor, mae'n gofyn yn gellweirus a ydyw ei gwahoddiad "ar goll yn y post" !
Ym mis Ebrill eleni fe wnaeth cyfarfod llawn y cyngor dderbyn adroddiad Gweithgor y Gymraeg oedd yn agymell y dylai'r cyngor a Llywodraeth Cymru 'sefydlu Fforwm Iaith Sirol er mwyn gosod ffocws strategol i adfywiad yr iaith a datblygu cyfleoedd i gydweithio rhwng y cyrff a sefydliadau amrywiol sy’n gweithio er budd y Gymraeg yn Sir Gâr ac i fonitro cynnydd mewn perthynas â chynlluniau gweithredu lleol'. Mae'r Cynllun Gweithredu fod hyn i ddigwydd yn ystod mis Medi
 
Esboniodd Bethan Williams, Swyddog Maes y Gymdeithas yn Nyfed: "Y mater difrifol yw fod yn rhaid i Gyngor Sir Caerfyrddin gadw at yr amserlen a gyhoeddodd yn ystod wythnos yr Eisteddfod i weithredu ei strategaeth iaith. Un cam pwysig oedd sefydlu Fforwm Iaith Sirol er mwyn sicrhau fod pobl y sir yn rhan o'r symudiad mawr i ddatblygu'r Gymraeg, ond rydyn ni bellach yn ail hanner y mis heb glywed dim am ei sefydlu.
"Gwnaethon ni fel Cymdeithas gymryd y Cyngor Sir ar ei air, a chydweithio gyda nhw i ddathlu ar faes yr Eisteddfod iddyn nhw fabwysiadu Strategaeth Iaith newydd ac amserlen pendant i'w gweithredu. Bydd y Gymdeithas yn cadw "llygad barcud" ar y Cyngor i sicrhau ei fod yn cadw at yr amserlen yn ystod y misoedd nesaf. Yna ar Ddydd Sadwrn 17eg o Ionawr, byddwn yn cynnal fforwm agored yn Neuadd San Pedr Caerfyrddin "Tynged yr Iaith yn Sir Gar" i roi cyfle i bobl ysir farnu a ydyw'r Cyngor wedi gweithredu o ddifri ai peidio"
 
Mae Cynllun Gweithredu argymehllion Gweithgor y Gymraeg yma
Bydd mwy o fanylion am ein cyfarfod ym mis Ionawr ar ein gwefan