Ymateb i Adroddiad Cyngor Gwynedd ynglyn â ad-drefnu addysg

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMewn ymateb i adroddiad gan swyddogion Gwynedd i'w roi ger bron y Pwyllgor Craffu Addysg Dydd Iau nesaf mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw arnynt i ddiddymu'r cynllun adrefnu ysgolion yn hytrach na'i ddiwygio.

Dywedodd Sioned haf, swyddog Ymgyrchoedd y Gymdeithas:"Rhaid i'r swyddogion stopio ymesgusodi a newid safbwynt o hyd. Rhaid datgan yn syml fod y cynllun ar ben a bod cychwyn cyfnod newydd o ymgynghori agored a gonest."Dywedodd Ffred Ffransis, Llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith:"Mae'n rhaid cael datganiad hollol glir erbyn cyfarfod Pwyllgor Craffu Addysg Cyngor Gwynedd Dydd Iau nesaf fod yr hen gynllun ad-drefnu ysgolion wedi cael ei roi o'r neilltu, er mwyn ail sefydlu ymddiriedaeth a thrafod ffordd ymlaen ym mhob ardal i'n hysgolion a'n pentrefi Cymraeg. Galwn ar bobl i ddod i Gaernarfon Dydd Iau nesaf i sicrhau hynny. Llongyfarchwn y cymunedau lleol ar eu brwydrau i gadw eu hysgolion."