Ymateb i ddatganiad Cyngor Sir Gâr yngl?n â ysgolion Llangain, Bancffosfelen and Llanedi

logocyngorsirgar.jpgDywed Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin a rhiant yn Ysgol Bancffosfelen:"Rydym yn barod i dderbyn gair Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir eu bod yn barod i roi cyfle i ysgolion Llan-gain, Bancffosfelen a Llanedi i barhau i wasanaethu eu cymunedau. Fodd bynnag, rydym yn parhau i deimlo bod pwyslais y Cyngor Sir ar niferoedd yn anghywir ac y dylid cyfarwyddo swyddogion y Cyngor i gydweithio â'r cymunedau i ddod o hyd i ffyrdd amgen o ddatblygu yr ysgolion yma gan weithio gyda'r niferoedd disgyblion presennol. Mae'r ysgolion a'u cymunedau wedi dangos dewrder mawr yn ymladd dros eu dyfodol ac mae'r ffaith fod y Cyngor wedi cydnabod hyn yn dangos pwysigrwydd herio pwysau'r Cyngor a brwydro dros ein cymunedau Cymraeg."