Ymddiswyddiad Prif Weithredwr Sir Gar - Angen Cychwyn o'r Newydd

Wrth ymateb i'r newydd fod Mark James yn bwriadu ymadael a'i swydd fel Prif swyddog Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin, mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon neges at arweinwyr y tri grwp gwleidyddol ar y Cyngor yn gofyn bod "cychwyn o'r newydd".

Yn ei neges at arweinwyr y cynghorwyr Llafur, Plaid Cymru, ac Annibynnol, dywed Sioned Elin cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gar

"Nid ein lle ni yw barnu unrhyw unigolion, ond credwn fod y system wedi bradychu pobl Sir Gaerfyrddin. Mae angen i ni gychwyn o'r newydd. Rhaid i ni beidio a chael eto gwmni drud o ymgynghorwyr i chwilio am swyddog i redeg Sir Gar fel petai'n gangen o M & S. 

Gofynnwn i gynghorwyr benodi yn y dyfodol swyddogion sy'n deall pobl y sir ac yn deyrngar iddynt, ac yn alluogi i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg."