Ymgyrch dros Ysgol Bentre'n symud lan gêr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBydd 'Y Stig' yn gwneud ymddangosiad ar Faes yr Eisteddfod heddiw Ar ei feic modur yn barod i ruthro at Neuadd y Sir Caerfyrddin gyda llond blwch o negeseuon yn cefnogi ysgol bentre sydd wedi’i lleoli tua 12 milltir o’r maes. 'Y Stig' yw’r gyrrwr rasio di-enw sy’n profi ceir ar y rhaglen deledu 'Top Gear'. Bydd yn ymddangos heddiw ar y maes ar ei feic modur ar derfyn cyfarfod protest gan Gymdeithas yr Iaith gyda helmed tywyll yn cuddio’i wyneb.

Heddiw yw’r diwrnod olaf ar gyfer ymatebion i’r Cyfnod Ymgynghori – a drefnir gan Gyngor Sir Caerfyrddin – am ddyfodol Ysgol Mynyddcerrig. Esbonia llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:“Dyma’r prawf cyntaf ar gynllun y Cyngor Sir i gau hyd at 40 o ysgolion pentref Cymraeg. Os llwyddan nhw i gau Ysgol Mynyddcerrig, bydd pwysau aruthrol ar ddegau o ysgolion pentre eraill yn y sir, a bydd Cynghorau Sir eraill yn ystyried dynwared Caerfyrddin. Yr ydym wedi gwahodd eisteddfodwyr felly i gyfrannu at y broses ymgynghori sy’n terfynu heddiw. Yr ydym yn ymddiried yn 'Y Stig' i gludo’r ymatebion hyn at Neuadd y Sir Caerfyrddin cyn yr amser cau am 5pm.”Am resymau diogelwch ar y maes, bydd cefnogwyr y Gymdeithas yn helpu’r “Stig” i wthio’r beic modur gyda’i flwch pwysig at fynedfa’r maes, ac yna caiff y peiriant ei danio ac awe i Gaerfyrddin.Cefnogaeth Arwyr RygbiHefyd yn annerch y Cyfarfod i gefnogi Ysgol Mynyddcerrig – a gynhelir am 2pm (Gwener 11/8) yn uned y Gymdeithas ar y maes – fe fydd y dyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens, sy’n frodor o’r pentre a chyn-ganolwr Cymru Ray Gravell. Mae’r ysgol bentre y mae plant Ray ynddi – Ysgol Mynydd-y-garreg hefyd tan fygythiad gan Gyngor Sir Caerfyrddin.