Ysgol Gymraeg i Hwlffordd Gam yn Nes

Mewn cyfarfod cyngor arbennig heddiw (dydd Iau 21ain o Ebrill) penderfynodd cyfarfod llawn Cyngor Sir Benfro ar safle ar gyfer ysgol Gymraeg 3-16 yn Hwlffordd.

Dywedodd Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith

Gan fod safle wedi ei benodi ar gyfer ysgol Gymraeg 3-16 yn Hwlffordd mae'r cynllun gam yn nes ac mae angen mynd i'r afael â darpariaeth mewn mannau eraill yn y sir. Mae'r adroddiad oedd gerbron cynghorwyr heddiw yn cydnabod bod sawl ardal wedi eu hychwanegu yn nalgylch yr ysgol newydd arfaethedig gan fod angen strategaeth ar gyfer addysg Gymraeg yn yr ardaloedd hynny.

Beth sydd angen i'r wneud yw symud pob ysgol yn y sir ar hyd y continwwm ieithyddol yn raddol, gyda golwg bod pob ysgol yn ysgol Gymraeg mewn blynyddoedd. Fel hynny fyddai neb yn cael ei amddifadu o addysg Gymraeg.”

Bydd nodyn statudol yn cael ei gyhoeddi ar gyfer safle'r ysgol Gymraeg wythnos nesaf a bydd gan y cyhoedd gyfle i wrthwynebu.

Y stori yn y wasg:

Sêl bendith i leoliad ysgol Gymraeg newydd -Golwg 360