Ysgol Llangennech - newid yn bwysig i'r sir gyfan

Wrth ymateb i ddigwyddiad wedi ei drefnu i wrthwynebu newid Ysgol Llangennech i fod yn ysgol Gymraeg dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:
"Mae newid ysgol Llangennech i fod yn ysgol Gymraeg yn bwysig i'r sir gyfan yn ogystal â Llangennech. Dim ond addysg Gymraeg fydd yn sicrhau bod plant yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn sicrhau cyfleoedd gwaith a chymdeithasol iddynt yn y dyfodol.
"Roedd yn rhagweladwy y byddai Neil Hamilton yn achub ar y cyfle i wneud safiad gwrth-Gymraeg fel hyn fyddai'n amddifadu cenhedlaeth arall o blant o'r gallu i fyw a gweithio yn Gymraeg. Beth sydd i ddisgwyl gan rywun nad yw'n trafferthu byw yn yr etholaeth na'r wlad y mae'n gwasanaethu?"