Ysgol Llangynfelyn - ymgyrch i'w hachub

Yn dilyn penderfyniad Cabinet Cyngor Sir Ceredigion heddiw i gyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol Llangynfelyn yng Ngogledd Ceredigion, dywedodd Bethan Williams, swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith:
"Rydyn ni'n cymeradwyo dyfalbarhad holl rieni, plant a chymuned Llangynfelyn i gadw'r ysgol ar agor. Ar ôl symud i'r ardal mae nifer teuluoedd wedi dod yn weithgar iawn, yn rhan o'r gymuned a'r ysgol yw eu prif gysylltiad â'r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig.
“Nid yn unig bydd colli plant o addysg Gymraeg wrth i rieni fynd a'u plant at ysgolion Aberystwyth, am ei fod yn fwy cyfleus, neu yn eu haddysgu adref ond bydd y gymuned yn cael ei chwalu wrth i'r plant gael eu rhannu. Yn anffodus dydy'r pethau hyn ddim yn ffactor wrth benderfynu ar ddyfodol yr ysgol.
"Mae effaith hir dymor penderfyniadau, gan gynnwys eu heffaith ar y Gymraeg a chynaliadwyedd cymunedau, i fod yn ganolog i holl benderfyniadau cynghorau ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ddod i rym. Rydyn ni herio'r cyngor felly i beidio cadw at yr un arfer o gau ysgolion ond i edrych o ddifri ar effaith cau ysgolion dros y pymtheg mlynedd diwethaf ar bethau fel safon addysg, a yw plant yn aros mewn addysg Gymraeg uwchradd, bellach ac uwch; a'r effaith ar y gymuned.”

Bydd disgwyl i'r cyngor sir gyhoeddi'r rhybudd statudol o fewn 28 diwrnod, a bydd cyfle i'r cyhoedd roi unrhyw wrthwynebiadau. Bydd cyfarfod llawn y Cyngor yn penderfynu'r derfynnol fis Rhagfyr.

Y stori yn y wasg:

Cyngor Ceredigion yn Penderfynu Cau Dwy Ysgol - Golwg360

Cabinet Ceredigion o Blaid Cau Ysgolion - BBC Cymru Fyw