Ysgol Machynlleth: addewid cyngor i'w throi yn Ysgol Gymraeg

Mae mudiad iaith wedi ymateb i'r penderfyniad ynghylch y ffrwd Saesneg yn Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth. 

Dywedodd Toni Schiavone Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith: 

"Dwi'n obeithiol y bydd yr ysgol yn troi yn un gyfan gwbl Gymraeg yn y pendraw. Wedi'r cwbl, mae'r cyngor newydd wneud addewid clir i symud yr ysgol ar hyd y continwwm ieithyddol yn ei gynllun addysg Gymraeg. Mae'r newidiadau hyn yn hanfodol os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gyrraedd ei tharged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg - sydd â chefnogaeth eang ymysg y cyhoedd ac ar draws y pleidiau. Mae angen i ysgolion a siroedd normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith yn rhan bwysig o hynny. Mae dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig ar oedran ifanc, yn allweddol; ac yn sicrhau bod disgyblion yn gwbl rugl yn y Gymraeg a'r Saesneg."