Ysgol Mynyddcerrig yn ennill y rownd gyntaf

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Ysgol Mynyddcerrig wedi ennill y rownd gyntaf o'i brwydr yn erbyn Cyngor Sir Caerfyrddin sydd am gau'r ysgol. Yn wyneb brwydr fawr dros yr ysgol - a arweinir gan Gymdeithas yr Iaith - mae'r Cyngor Sir newydd gyhoeddi y bydd yn ildio i'r cais am estyn y 'cyfnod ymgynghori' am fis ychwanegol.

Bwriedwyd cau'r cyfnod ymgynghori Fore Lun nesaf, gan ganiatau mis cwta ar gyfer ystyried pob opsiwn am ddyfodol yr ysgol. Erbyn hyn, y mae'r Cyfarwyddwr Addysg, Vernon Morgan, wedi dweud yr estynnir y cyfnod ymgynghori tan Awst 11eg.Dywed cadeirydd y Gymdeithas yng Sir Gaerfyrddin, Sioned Elin, sydd a phlant yn ysgol gyfagos Bancffosfelen sydd hefyd tan fygythiad:"Dangoswyd cryfder teimladau lleol trwy fod 100 o bobl wedi dod Nos Wener diwethaf at gyngerdd 'Colli Iaith, Colli Cymdeithas', gyda Heather Jones a phlant yr ysgol, a gynhaliwyd yn Ysgol Mynyddcerrig. Bydd y ffaith fod Mynyddcerrig wedi ennill rownd gyntaf y frwydr yn calonogi rhieni a llywodraethwyr.""Bydd ein protest ni tu allan i Neuadd y Sir Caerfyrddin am 9.30am Mercher nesaf (12/7) yn mynnu fod y Cyngor llawn yn penderfynu ar dynged yr ysgol yn hytrach na'r sarhad o drafodaeth fer yn y Bwrdd Gweithredol yn unig.""Yn y brotest fore Mercher, bydd llywydd Merched y Wawr, cynrychiolwyr Undeb Ffermwyr Cymru a dwsin o ysgolion pentrefol eraill ymhlith y rhai a fydd yn rhoi negeseuon o gefnogaeth i Ysgol Mynyddcerrig. Daw pawb a charreg o'u hardal i adeiladu ar risiau Neuadd y Sir 'fynydd o gerrig' mewn cefnogaeth i'r ysgol.