Mae caredigion y Gymraeg wedi codi cwestiynau wrth i Gyngor Sir Penfro ymgynghori o'r newydd am ad-drefnu addysg Gymraeg yng Nghanol a Gogledd Orllewin y sir mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor heddiw.
Fis Ionawr eleni derbyniodd y cyngor argymhelliad, yn dilyn ymgynghoriad, i agor ysgol uwchradd Gymraeg yn Hwlffordd. Derbyniodd y cyngor adroddiad yn argymell ymgynghori eto ar dri mater ar wahân: darpariaeth Gymraeg, darpariaeth yn Hwlffordd a darpariaeth yn ardal Tyddewi ac Abergwaun.
Dywedodd Kevin Knox, aelod lleol o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd wedi bod yn ymgyrchu dros ysgol uwchradd Gymraeg yn yr ardal:
"Roedd yr ymgynghoriad yn gynharach eleni yn dangos fod 96% o'r rhai ymatebodd yn fodlon bod ysgol Gymraeg yn dod i Hwlffordd felly pam bod angen ymgynghoriad arall eto?
"Mae pobl wedi bod yn aros ers blynyddoedd os nad degawdau am Ysgol Uwchradd Gymraeg yn Ne y sir, o'r diwedd roedd addewid y byddai ysgol erbyn 2019 ond nawr mae ansicrwydd ac oedi.
“Dydy pobl ddim am drafod, ymgynghori a llenwi ffurflenni eto – maen nhw am gael ysgol y gallan nhw neu eu plant fynd iddi!”
Ychwanegodd Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Does dim safle pendant ar gyfer ysgol Gymraeg yn Hwlffordd erbyn hyn a byddai hi'n llawer gwell i'r cyngor dreulio amser ar gael safle i ysgol Gymraeg yn lle ymgynghori eto. Roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad diwetha' ymysg yr uchaf i'r cyngor ei gael ond dyma nhw nawr yn gofyn i bawb ymateb eto. Nid yn unig hynny ond mae'r ymgynghoriad i ad-drefnu wedi ei rannu'n dair rhan. Bydd dau neu'r tri ymgynghoriad yn berthnasol i rai pobl felly byddan nhw'n gorfod ymateb i bob un ar wahân.
“Mae gormod o blant y sir wedi colli mas ar addysg Gymraeg neu wedi gorfod teithio'n bell er mwyn cael addysg Gymraeg fel mae."
Mae disgwyl i ymgynghoriad gael ei gynnal cyn diwedd y mis. Wrth gyfeirio at yr ymgynghoriad dywedodd Bethan Williams:
"Dydy'r cynlluniau diweddaraf ddim yn mynd i'r afael ag addysg ôl-16 yn Gymraeg o hyd. Bydd disgwyl i unrhyw blant yn y sir sydd am astudio pynciau lefel-A drwy'r Gymraeg i fynd i Ysgol y Preseli o hyd. Byddwn ni'n tynnu sylw at y diffyg hyn eto yn ein hymateb i'r ymgynghoriad – ac yn annog trigolion eraill y sir i wneud hefyd."
Penderfynwyd hefyd i sefydlu ysgol 3-16 yn lle Ysgol Dewis Sant, Ysgol Bro Dewi ac Ysgol Solfa a thrafod gyda llwyodraethwyr Ysgol Croesgoch er mwyn iddi ddod yn ysgol Gymraeg dros amser.
Wrth ymateb i'r penderfyniad hwn dywedodd Bethan Williams:
“Bydden ni'n falch o weld ysgolion yn dod yn ysgolion Cymraeg, ond nid ar draul ysgolion eraill. Rydyn ni wedi galw droeon ar y cyngor sir i symud pob ysgol yn y sir ar hyd y contiwwm ieithyddol dros amser. Gyda'r bwriad i agor ysgol newydd 3-16 yn ardal Tyddewi gellid ei sefydlu fel un ddwyieithog i ddechrau gyda'r bwriad iddi ddod yn ysgol Gymraeg.”