Ysgolion Ceredigion: "ESTYN allan" i'n cymunedau

Daeth 50 o aelodau Cymdeithas yr Iaith a rhieni o ysgolion pentrefol Cymraeg yng Ngheredigion i gyntedd pencadlys Cyngor Ceredigion wrth i Estyn gynnal arolwg o'r Cyngor Sir.

Roedd eu posteri yn galw am "ESTYN ALLAN at ein cymunedau" a phosteri'n mynnu dyfodol i nifer o ysgolion pentrefol Cymraeg y sir sydd tan fygythiad; a'r protestwyr yn targedu'r Cyngor Sir ac hefyd ESTYN sydd i raddau helaeth yn gyrru'r broses o ymosod ar ein hysgolion.

Wrth siarad gyda rhieni dyweddodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:

"Mae ESTYN yn trin ein hysgolion fel ffatrïoedd hyfforddiant yn hytrach nag fel canolfan eu cymunedau ac yn anfon neges wael iawn i'r plant. Eu neges amlwg i'r plant yw bod eu hysgolion a'u cymunedau Cymraeg yn ddiwerth. Mae ESTYN hyd yn oed yn gyfrifol am wastraffu arian cyhoeddus trwy edrych ar yr ysgolion fel canolfannau hyfforddiant yn unig yn lle cydlynu defnydd cymunedol, datblygu sgiliau ac ysgolion mewn un adnodd gymunedol a allai gymhathu'r miloedd o fewnfudwyr sy'n dod i gymunedau Ceredigion. Mae'n bryd iddynt ESTYN allan at ein cymunedau yn lle gwasgu ar gynghorau i gau ysgolion ac anwybyddu'r cymunedau hyn."

Wrth droi at Gyngor Ceredigion, cyhuddodd Mr Ffransis yr Awdurdod o gymryd diléit mewn cau ysgolion pentrefol wrth ddilyn dogma ysgolion canolog.

Dywedodd: "Mae'r Awdurdod wedi anwybyddu llais y gymuned yn Llanafan er eu bod nhw wedi derbyn mwy o lythyrau cefnogaeth nag erioed o'r blaen. Maent wedi symud i gynnig cau'r ysgol heb ystyried opsiwn ffederasiwn ffurfiol o nifer o ysgolion y fro. Maent hefyd am aberthu Ysgol Llanddewi Brefi yn unig er mwyn ceisio denu cyllid gan Lywodraeth Bae Caerdydd. Ac maent yn awr yn dial ar ysgolion eraill gan na bu unrhyw gefnogaeth i'w delfryd o un ysgol fawr ganolog i Ddyffryn Aeron. Maent am gau Ysgol Dihewyd er bod eu hadroddiad eu hun yn cydnabod mai dyma ganolbwynt y gymuned, ac maent am gau Ysgol Trefilan er y caiff y plant eu chwalu i wahanol gyfeiriadau."

Yn wyneb canlyniadau'r Cyfrifiad, mae'n bryd i Gyngor Ceredigion weld ein hysgolion pentrefol yn asedau pwysig i adfywio'n pentrefi gwledig Cymraeg yn lle plygu i bwysau cyrff fel ESTYN nad sydd ag unrhyw fandad gan ein cymunedau."

Fe wnaeth Mared Ifan, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth hefyd annerch y rhieni gan ddweud eu bod fel myfyrwyr, yn brwydro dros achub Neuadd yn Pantycelyn yn uniaethu ac yn cefnogi brwydr y trigolion i ddiogelu eu cymuned.