Mae ymgyrchydd iaith wedi derbyn gorchymyn llys uniaith Saesneg, hanner can mlynedd wedi i'r un digwyddiad arwain at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Sadwrn Awst 4ydd). Daw'r newyddion ar yr un dyddiad a gafodd y mudiad ei sefydlu ym Mhontarddulais ym 1962.
Ar Awst 13 eleni, fe fydd yr ymgyrchydd iaith Jamie Bevan o flaen y llys am beidio talu dirwy yn gysylltiedig ag ymgyrch dros S4C. Er iddo gwyno 3 gwaith am ohebiaeth uniaith Saesneg gan Wasanaeth y Llysoedd, fe gafodd orchymyn llys uniaith Saesneg.
Wrth reidio ei feic yn Aberystwyth yn 1962, fe gafodd Gareth Miles ei erlyn am iddo gario rhywun arall ar y beic a derbyniodd gwys uniaith Saesneg: un o'r digwyddiadau a'i sbardunodd ef ac eraill i ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Fe geir areithiau am y mater ym mharti pen-blwydd y Gymdeithas yn 50 ar faes yr Eisteddfod heddiw. Dywed y mudiad y dylai'r digwyddiad ein hatgoffa o'r angen i ymgyrchu mewn nifer o ffyrdd dros y Gymraeg. Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Er bod nifer o enillion wedi deillio o ymgyrchu dros y 50 mlynedd diwethaf, mae'r modd mae'r llysoedd wedi trin Jamie a'r Gymraeg yn dangos nad yw'r frwydr drosodd. Mae angen trawsnewid agweddau a'r drefn os yw'r iaith i fyw. Mae'r slogan 'Rhaid i bopeth newid' mor wir ag erioed.
"Wedi 50 mlynedd, dyma orfod mynd unwaith eto trwy'r weithred o wrthod y 'gorchymynion llys' a roddodd gychwyn i weithredoedd y Gymdeithas. Er bod buddugoliaethau wedi'u hennill, rhaid i ni o hyn ymlaen fynnu newid llwyr yn y drefn yn lle consesiynau unigol y gellir eu gwrthdroi.
"Nid yw'r Mesur Iaith diweddar yn clymu Adrannau'r Goron sydd tan awdurdod Llywodraeth San Steffan a gall Adrannau'n ymwneud â'r Gyfraith a budd-daliadau anwybyddu'r iaith. Galwn ar Lywodraeth Cymru i sefyll lan yn erbyn San Steffan a mynnu parch i'r iaith. Yn rhy aml yn y sector cyhoeddus bodlonir gofynion Cynlluniau Iaith os darperir fersiwn Gymraeg o ffurflenni ar gais arbennig. Galwn ar bobl Cymru i beidio â gwneud cais arbennig am ddogfennau Cymraeg ond eu mynnu."
Dywedodd Jamie Bevan, trigolyn Merthyr Tudful:
"Rwyf wedi cwyno'n gyson wrth wasanaeth y Llysoedd er mwyn ceisio sicrhau eu bod nhw'n cyfathrebu gyda mi yn Gymraeg. Ces i nifer o ymddiheuriadau ac addewidion na fyddai'n digwydd eto. Ond dyma fi eto yn derbyn gohebiaeth uniaith Saesneg. Oes rhaid i bobl Cymru oddef hyn o hyd? Pryd fydd y troseddau corfforaethol hyn yn cael eu cosbi? Mae Cymry Cymraeg wedi bod yn aros am gyfiawnder yn rhy hir.
"Rwyf wedi bod yn ffonio Llys Merthyr a dewis yr opsiwn Cymraeg, ond does neb byth yn ateb yn Gymraeg. Dywedwyd wrtha i yn ddiweddar gan weision y llys eu bod nhw'n gorfod cael dewis Cymraeg ar y ffon, ond nad oedd bwriad ganddynt ddarparu gwasanaeth Cymraeg ar y linell honno. Pryd fydd y driniaeth docenistaidd hon yn dod i ben?"
Ychwanegodd Gareth Miles, un o sylfaenwyr y Gymdeithas:
"Mae profiad Jamie yn dangos bod cyfyngiad i effaith cwyno a dilyn dull cyfreithlon o ymgyrchu. Dylai'r digwyddiad hwn ein hatgoffa bod angen y Gymdeithas o hyd, a mwy nag erioed. Mae'r gyfundrefn fel ag y mae yn milwrio yn erbyn y Gymraeg. Os nad yw'r drefn yn newid, ni fydd dyfodol llewyrchus i'r iaith."