Y Sesiwn Ryngwladol yn Aberystwyth

Fe ddaeth ymgyrchwyr iaith o ar draws y byd at ei gilydd yn Aberystwyth heddiw fel rhan o ddathliadau hanner can mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Fe wnaeth siaradwyr o Golombia, Gwlad y Basg, Twrci a Chatalonia yn ogystal â Chymru drin a thrafod ymgyrchoedd iaith mewn cynhadledd arbennig a gynhelir ar yr un penwythnos â chyfarfod cyffredinol y Gymdeithas. Ymysg y siaradwyr yr oedd Dr Sian Edwards o Brifysgol Abertawe, yr awdur ac ymgyrchydd Ned Thomas, Bejan Matur awdur Gwrdaidd o Dwrci, Paul Bilbao Sarria o Wlad y Basg a Maria Areny o Gatalonia.

Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y penwythnos hefyd, a chytunodd aelodau’r mudiad ar gynnig a ddatganolodd grym i ranbarthau lleol.

Yn siarad yn ystod y digwyddiadau rhyngwladol, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae’r digwyddiadau dros y penwythnos hwn yn rhai cyffrous tu hwnt. Gobeithiwn y gall yr ymgyrchwyr o amryw o wledydd rannu syniadau a phrofiadau er lles y Gymraeg a’r ieithoedd eraill. Ers ein sefydlu gan lond llaw o bobl mae’r Gymdeithas wedi cael effaith ddi-gwestiwn ar lywodraeth San Steffan a Chaerdydd - o ennill S4C i sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg. Yn sicr, ni fyddai gan y Gymraeg statws swyddogol a ni fyddem wedi gweld creu Coleg Cymraeg heb ymdrechion y Gymdeithas. Er i ni agel sawl buddugoliaeth mae ‘na gymaint i wneud o hyd - ar lefel gymunedol yn ogystal â sicrhau hawliau sylfaenol fel a amlygwyd yn ddiweddar gan brofiadau Jamie Bevan yn y carchar.”

“Rwy’n disgwyl trafodaeth frwd ynglŷn â’n strwythur yn y Cyfarfod Cyffredinol. Fel mudiad, rydym wastad yn awyddus i wella ein ffyrdd o weithio a bydd yr aelodaeth yn penderfynu sut mae hynny’n digwydd dros y penwythnos.”

Dywedodd yr ASE Jill Evans un o’r siaradwyr yn y gynhadledd:

“Mae ieithoedd yn rhan o’n diwylliant a’n hunaniaeth. Mae dysgu ieithoedd newydd yn ein galluogi ni i weld y byd mewn ffordd wahanol. Mae parchu hawliau pobl eraill, gan gynnwys yr hawl i ddefnyddio eu hiaith eu hunain, yn sylfaenol i’n democratiaeth.

"Ac eto, fel pobl eraill o amgylch y byd, rydym wedi gorfod brwydroam gydnabyddiaeth a chydraddoldeb i’r Iaith Gymraeg. Cymerwyd camau mawrion ers i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddechrau ymgyrchu yn 1962, ond mae’r ymgyrch honno ymhell o fod wedi gorffen. Gall fy nghyfeillion o Ynys Melita, Iwerddon, Lwcsembwrg ac Estonia siarad eu hieithoedd eu hunain yn y pwyllgorau ac yn siambrau Senedd Ewrop, ond os wna i siarad yn y Gymraeg, rhaid i fi ddarparu fy nghyfieithiad fy hun. Dim ond statws hanner swyddogol sydd gan y Gymraeg yn yr UE er ei bod yn iaith swyddogol yng Nghymru.”