Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi peintio sloganau ar swyddfeydd Cyngor Sir Dinbych oherwydd cynlluniau i ganiatáu adeiladu miloedd o dai diangen yn y sir.
Fe welwyd cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn genedlaethol, a hefyd cwymp mewn siaradwyr Cymraeg yn lleol, yn ôl canlyniadau’r Cyfrifiad a gafodd eu rhyddhau'r wythnos yma. Targedwyd Cyngor Sir Ddinbych efo sloganau yn datgan “Dim Tai Diangen” a “Dwi Eisiau Byw yn Gymraeg”.
Dywedodd Glyn Jones Cadeirydd Rhanbarth Clwyd Cymdeithas yr Iaith:
“Bu gweithredu uniongyrchol yn erbyn Cyngor Sir Ddinbych am eu bod yn mynnu gwthio agenda sy'n milwro yn erbyn cynaladwyedd ein hiaith a'n cymunedau. Ers misoedd mae'r Cyngor wedi anwybyddu cynghorau tref a chymuned yn y sir, wedi anwybyddu refferendwm cymunedol yn ardal Bodelwyddan, wedi anwybyddu aelodau Cynulliad, Seneddol a Senedd Ewrop, heb sôn am anwybyddu ymgynghoriad cymunedol i effaith datblygiadau o'r fath ar y Gymraeg yn Sir Ddinbych”
“Rydym yn galw ar Cyngor Sir Ddinbych i ail-ystyried eu Cynllun Datblygu Lleol, ac i osod y Gymraeg a dyfodol y Gymraeg fel blaenoriaeth. Rhaid i'r gwladychu hwn o diroedd Cymru ddod i ben.”
Ychwanegodd Osian Jones Trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd:
“Mae hi'n hen bryd i Gyngor Sir Dinbych ddeffro i'r argyfwng syn wynebu'r Gymraeg, mae'r Gymraeg wedi ei hanwybyddu'n llwyr gan uwch swyddogion y Cyngor wrth iddynt wthio i weld mwy a mwy o dai diangen yn cael eu hadeiladu yn y sir. Galwn am foratoriwm i holl gynlluniau datblygu lleol ym mhob cyngor ar draws Cymru, fel ymateb cadarnhaol i ganlyniadau'r cyfrifiad.”