Annwyl Gyd-Ymgyrchwyr,
Am wythnos i ddod yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith! Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos bod argyfwng yn ein cymunedau, a bod sefyllfa'r Gymraeg yn un argyfyngus.
Gallwn ni yng Nghymdeithas yr iaith fod yn ganolog i'r chwyldro bydd yn gwrthdroi'r dirywiad ac yn creu cymunedau Cymraeg cynaliadwy.
Rhaid felly peidio ag anobeithio am bethau, ond derbyn yr her a gweithredu ar frys. Felly...
- Dewch i Rali'r Cyfrif dydd Sadwrn (15fed Rhagfyr) yng Nghaernarfon. Mae angen gyrru neges glir ein bod eisiau byw yn Gymraeg, eisiau gwarchod ein cymunedau, a bod rhaid i'r Llywodraeth ein cefnogi ni. Mae gig hefyd wedi ei drefnu yng Nghlwb Canol Dref Caernarfon ar y noson flaenorol.
- Bydd cyfres o raliau eraill hefyd ym Merthyr ar Ionawr y 5ed, Aberystwyth ar Chwefror yr 2il, ac hefyd yng Nghaerfyrddin yn fuan yn y flwyddyn newydd. Os hoffech chi helpu trefnu rali/cyfarfod yn eich ardal chi, cysylltwch â fi - robin@cymdeithas.org
- Cyfrannwch i'r Maniffesto Byw - gan ddechrau dydd Sadwrn, bydden ni'n creu cynllun ar gyfer Iaith, Gwaith a Chymunedau. Mae'n glir bod cynlluniau'r llywodraeth yn y maes yma wedi methu, dyna pam bod angen eich gweledigaeth chi yn ein cymunedau ar gyfer ein cymunedau.
- Dewch â ffrindiau efo chi i'r raliau, perswadiwch bobl i ymaelodi, dewch i'r gig Nadolig yng Nghaerfyrddin i drafod gyda cyd aelodau a chefnogwyr. Nid argyfwng clique Cymraeg yw hwn ond argyfwng pawb yng Nghymru. Mae angen i bawb weithredu, nid y cymeriadau arferol yn unig (er mor werthfawr ydym ni)...
Gwelai chi yno!
Robin