DAETH 400 o bobl i rali Cymdeithas yr Iaith i godi llais am ganlyniadau'r Cyfrifiad heddiw.
Cododd y dorf arwyddion yn dweud 'dwi eisiau byw yn Gymraeg' yn lansio ymgyrch newydd y Gymdeithas.Yn ystod y rali, lansiodd y mudiad ‘maniffesto byw’ fel ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad. Mae’r maniffesto yn cynnwys dros ugain o bolisïau gyda’r nod o wrth-droi dirywiad y Gymraeg a welwyd yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad yn gynharach yr wythnos hon.
ANFONWCH NEGES AT CARWYN JONES, Y PRIF WEINIDOG
Mae'r Gymdeithas wedi gofyn i Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, am
gyfarfod i drafod argyfwng y Gymraeg ac i galw am gefnogaeth i'r polisïau
yn y maniffesto byw. Maent yn galw ar bobl i yrru neges i Carwyn Jones, yn
gofyn iddo gydnabod yr argyfwng a chyfarfod â'r Gymdeithas cyn gynted â
phosib.
Yn ôl y Cyfrifiad, mi oedd ugain mil yn llai o siaradwyr Cymraeg yng
Nghymru - lawr o 21% ddegawd yn ôl i 19% - ac fe gwympodd canran y
siaradwyr yn holl siroedd y gorllewin a’r gogledd. Targed Llywodraeth Cymru
oedd cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 5% i dros chwarter y boblogaeth.
Anerchwyd y dorf gan Jill Evans ASE, Eben Muse, Par. Rhys Llwyd a Toni
Schiavone.
Yn siarad ar ol y rali, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr
Iaith:
“Mae’r niferoedd heddiw yn profi bod pobl eisiau byw yn Gymraeg, ond mae'r
Llywodraeth yn sefyll yn ffordd dyheuadau pobl ar lawr gwlad. Dyna pam dyn
ni'n galw ar bobl i anfon neges at Carwyn Jones i fynegi eu barn bod angen
newid. Rydyn ni'n aros am ymateb oddi wrtho i drefnu cyfarfod brys.
"Nid oes diben eistedd yn ôl a derbyn canlyniadau’r Cyfrifiad: gydag
ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni newid ein tynged a
thynged ein cymunedau Cymraeg. Ni all y Gymraeg a’i chymunedau fforddio mwy
o’r un peth gan y llywodraeth na sefydliadau Cymru yn ehangach.
“Mae’n amser am ddewrder a syniadau newydd gan ein gwleidyddion. Os
derbynia’r Llywodraeth bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg sydd angen ei
ddatrys ar frys, bydd gobaith. Credwn mai dyhead nifer cynyddol o bobl
Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; deallwn
hefyd mai sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg eu hiaith yw'r unig ffordd o
wireddu'r weledigaeth honno. Yr hyn sydd eisiau arnom yw’r ewyllys
gwleidyddol i wireddu dyheadau pobl ar lawr gwlad"
Wrth sôn am faniffesto byw y mudiad, ychwanegodd:
“Cafwyd ymateb da i'r maniffesto heddiw. Ond, nid ydym fel cymdeithas yn
honni mai ni sydd piau’r holl atebion, felly byddwn ni’n annog cymunedau ac
unigolion i ychwanegu at y syniadau hyn. Fodd bynnag, heb amheuaeth, mae
angen cyfres o bolisïau clir a dewr gan Lywodraeth Cymru ym mhob maes, ond
yn arbennig ym meysydd addysg, cynllunio, tai a’r gweithle er mwyn
gwrth-droi’r dirywiad. Wrth gydnabod difrifoldeb y sefyllfa, rydym yn agor
ein syniadau i drafodaeth ac yn gobeithio ennyn diddordeb pobl ledled y
wlad.”
Mae’r mudiad yn annog cyfraniadau gan y cyhoedd a chymunedau i’w faniffesto
ar Twitter trwy ddefnyddio’r hashnod #maniffestobyw, neu e-bostio
post@cymdeithas.org, fel bod modd datblygiadau’r syniadau ymhellach.