Telerau Defnyddio

Sylwch:

  1. nad yw Cymdeithas yr Iaith (cymdeithas anghorfforedig) (y Gymdeithas) yn awdurdodi unrhyw newidiadau sylweddol i Gymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir) nac i Ddogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir) nac i Gymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau) (tir na fu adeiladu arno) nac i Ddogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tir na fu adeiladu arno) (a dylid defnyddio’r fersiwn diweddaraf o’r cymal perthnasol neu’r ddogfen berthnasol ar achlysur pob gwerthiant neu hunangyfamodi);

  2. na fydd y Gymdeithas yn barti i unrhyw gytundeb na throsglwyddiad y mae Cymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir) na Chymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau) (tir na fu adeiladu arno) yn cael ei fewnosod ynddo (nac yn ei arwyddo), nac yn arwyddo unrhyw weithred cyfamodi ddiweddarach;

  3. na fydd y Gymdeithas yn arwyddo unrhyw weithred cyfamodi ar ffurf Dogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir) na Dogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tir na fu adeiladu arno) neu unrhyw weithred cyfamodi ddiweddarach;

  4. na fydd y Gymdeithas dan orfodaeth i orfodi unrhyw gyfamod a gynhwysir yng Nghymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir) nac yn Nogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir) nac yng Nghymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau) (tir na fu adeiladu arno) nac yn Nogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tir na fu adeiladu arno) yng nghyd-destun unrhyw gytundeb, trosglwyddiad, gweithred cyfamodi neu unrhyw ddogfen arall;

  5. na ddylid defnyddio Dogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir) na Dogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tir na fu adeiladu arno) parthed (a) unrhyw eiddo heb wirio na fyddai unrhyw amod neu amodau unrhyw forgais neu arwystl sydd ar yr eiddo hwnnw'n cael ei dorri neu'u torri gan gwblhad gweithred cyfamodi sydd yn seiliedig ar Ddogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir) neu Ddogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tir na fu adeiladu arno) na chan gofrestriad y cyfyngiad y cyfeiriwyd ato yn y weithred cyfamodi honno, nag (b) eiddo anghofrestredig; ac

  6. na fydd y Gymdeithas yn gyfrifol nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddefnydd o Gymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir) nac o Ddogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir) nac o Gymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau) (tir na fu adeiladu arno) nac o Ddogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tir na fu adeiladu arno).

Os bydd gair yn y Telerau Defnyddio hyn yn cael ei ddiffinio (unai ar ei ben ei hun neu fel rhan o derm neu ymadrodd) yn ei ffurf anhreigledig, fe fydd y diffiniad hwnnw'n dal i fod yn berthnasol iddo yn ei ffurf dreigledig (a'r ffordd arall).