29/05/2024 - 10:02
Cyflwynwyd galwad “Deddf Eiddo – Dim Llai” Cymdeithas yr Iaith i swyddogion Llywodraeth Cymru heddiw (29 Mai) wedi diwedd digwyddiad dathlu deng mlwyddiant y Siarter Iaith yn stondin y Llywodraeth. Mae gwaith a llwyddiannau’r Siarter i’w canmol yn ôl y Gymdeithas, ond mae argyfwng tai a dinistr y farchnad agored yn bygwth “tanseilio” y gwaith da hynny, yn hytrach nag adeiladu arno.
04/05/2024 - 18:49
Mynychoedd gannoedd rali a gorymdaith Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog heddiw (4 Mai) i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo fyddai’n mynd at wraidd yr argyfwng tai, a sicrhau bod tai yn 
20/04/2024 - 11:32
Mewn Cyfarfod Arferol ar nos Lun, 11 Mawrth, cytunodd Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog yn unfrydol i basio cynnig yn ‘datgan cefnogaeth i alwad Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Eiddo’. Daw y cyhoeddiad o flaen rali fawr Nid yw Cymru ar Werth yn y dref ar 4 Mai, lle bydd Beth Winter AS, Mabon ap Gwynfor AoS a’r cynghorydd Craig ab Iago ymysg rheiny fydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ‘Ddeddf Eiddo - Dim Llai’ i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a sicrhau bod tai yn cael eu trin fel cartrefi.
03/04/2024 - 17:40
Ni fydd gweithredu radical i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru a diogelu cymunedau Cymraeg oni bai i bobl ddod mewn nifer mawr i Rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar Fai 4 i ddangos cryfder teimladau Mae pryderon ymysg ymgyrchwyr iaith nad yw’r Llywodraeth yn deall maint yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg, a na fydd polisïau digon blaengar i fynd at wraidd y broblem yn cael eu mabwysiadu.